天天吃瓜

Fy ngwlad:

Them芒u Ymchwil: Gwyddorau'r Amgylchedd a Pheirianneg

Cadwraeth ac adfer ecosystemau gwydn, Gwyddorau ac ynni systemau daear, Iechyd cyfunol, Cynhyrchu bwyd mewn modd cynaliadwy a Gweithgynhyrchu cynaliadwy. 

Astudiaethau Achos REF 2021

Yn arddangos yr ystod o astudiaethau achos effaith a gyflwynwyd gan Goleg Gwyddorau Amgylcheddol a Pheirianneg Prifysgol Bangor

imagines COVID-19 virus
Llun dychmygol o'r firws COVID-19

Offer gwyliadwraeth amgylcheddol fiarol yn diogelu'r cyhoedd yn ystod pandemig Covid-19

Dros y degawd diwethaf, mae ymchwil ym Mangor wedi datblygu amrywiaeth o offer, technolegau a modelau dadansoddol i gadw golwg effeithiol ar firysau niweidiol yn yr amgylchedd ehangach, gan arwain at safonau diwydiant sy'n seiliedig ar risg.  

Gweithio gydag Eraill

Rydym yn aelodau craidd o  Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol NERC, sy'n ymroddedig i ddatblygu arweinwyr y genhedlaeth nesaf yng ngwyddor yr amgylchedd, ynghyd 芒 Phrifysgolion Lancaster a Nottingham a thair canolfan ymchwil annibynnol.

Mae gennym bartneriaethau ymchwil strategol gyda'r canlynol:

  • , y mae un o'i bhedair gorsaf ymchwil yn y Coleg ar gampws y Brifysgol yng Nghanolfan yr Amgylchedd Cymru, sy'n un o'r grwpiau mwyaf o ymchwilwyr yng ngwyddor yr amgylchedd yn y Deyrnas Unedig. Ar hyn o bryd rydym yn cydweithredu i gyflwyno tystiolaeth ymchwil allweddol i Lywodraeth Cymru i lywio datblygiad eu polisi amgylcheddol.
  • y , yr ydym yn cynnal ymchwil ar y cyd 芒 nhw ers tro byd ym maes eigioneg ffisegol.