Cafodd y broses o adnabod y coronafeirws mewn dŵr gwastraff ei datblygu yn y lle cyntaf gan wyddonwyr o Brifysgol Bangor. Maent wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, Prifysgol Caerdydd, Dŵr Cymru a Hafren Dyfrdwy. Mae’r cysyniad a’r prosesau cychwynnol bellach yn cael eu defnyddio mewn gwaith sy’n cael ei gwblhau ledled y DU.
Erbyn hyn, mae cyfarpar monitro awtomatig sy’n rhoi samplau y gall gwyddonwyr eu profi er mwyn rhoi dealltwriaeth ynghylch y feirws wedi eu gosod ym mhob un o’r 48 safle yng Nghymru.

Dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: “Mae’r data sy’n deillio o ddŵr gwastraff wedi ein helpu i ddeall sut mae’r pandemig wedi newid, ac wedi ein galluogi i olrhain y don Omicron drwy ein cymunedau.”
“Gyda chefnogaeth y gwyddonwyr a’r cwmnïau dŵr yng Nghymru, rydym wedi cynyddu’r safleoedd monitro o 19 i 48. Rydym hefyd wedi sicrhau cyfarpar sy’n casglu samplau yn awtomatig sy’n rhoi dealltwriaeth fanylach byth o brofion dŵr gwastraff o gymharu â’r dulliau y mabwysiadwyd gennym yn wreiddiol.”
Dywedodd y Prif Gynghorydd Gwyddonol ar Iechyd, Rob Orford: “Mae gan fonitro dŵr gwastraff y potensial i gynrychioli’r gwir lefelau o COVID-19 yn ein cymunedau. Mae hyn oherwydd nad yw’n cael ei effeithio cymaint gan newidiadau i bolisi profi cymunedol ac a yw pobl yn cael eu profi ai peidio.”
“Rydym yn awyddus i barhau i archwilio sut gall dŵr gwastraff chwarae rhan bwysig yn nyfodol ein strategaeth brofi wrth inni ddechrau symud o bandemig i endemig. Yn ogystal, mae gan ddŵr gwastraff rywfaint o botensial cyffrous tu hwnt i COVID-19. Gellid ei ddefnyddio i fonitro lefelau nifer o feirysau eraill megis y ffliw ac ymwrthedd gwrthficrobaidd.”