Bu ymchwydd enfawr yn nifer y bobl sy’n defnyddio sawnau yn y Deyrnas Unedig yn y blynyddoedd diwethaf, gyda llawer yn canmol ei fanteision i’w lles meddyliol yn ogystal ag i’w hiechyd. Mae llawer o astudiaethau wedi archwilio manteision iechyd baddonau sawna, er yng ngwledydd Llychlyn yn bennaf. Mae ymchwilwyr yn Ysgol Seicoleg a Gwyddor Chwaraeon y Brifysgol yn gobeithio ysgrifennu canllawiau i ddefnyddwyr sawna yn y Deyrnas Unedig ynghylch y ffordd orau o'u defnyddio i wella iechyd a lles.
I gefnogi’r gwaith hwn, Taleb Sgiliau ac Arloesedd - cynllun sy’n cynnig cyfle i gwmnïau yng Ngwynedd, Ynys Môn a Sir y Fflint gydweithio â’r Brifysgol drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.
Agorodd Sawna Bach ei sawna traeth cyntaf ym Mhorth Tyn Tywyn, Ynys Môn yn 2023, ac yn 2024 agorodd y cwmni sawna arall ar lannau Llyn Padarn yn Llanberis. Mae miloedd o bobl leol ac ymwelwyr wedi mwynhau sesiwn stêm yng nghaban pren moethus Sawna Bach, yn edrych dros Eryri neu Fôr Iwerddon.
Bydd Dr Geoff Coombs, Darlithydd mewn Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer a Sam Oliver, Athro mewn Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer, yn gweithio gyda pherchnogion Sawna Bach - Dr Caroline Coch, Jen Holloway ac Alex Zalewsk - i weld sut mae pobl yn defnyddio'r sawna. Byddant yn ceisio casglu tystiolaeth, yn ymdrechu i ateb cwestiynau sydd wedi peri penbleth i ddefnyddwyr sawna ers amser maith; pa mor hir y dylent ei dreulio yn y sawna, y tymheredd gorau, ac a ddylent neidio mewn dŵr oer neu'r môr ar ôl defnyddio'r sawna? Ar hyn o bryd, prin yw'r arweiniad ar arferion gorau yn y sawna o gymharu ag arferion iach eraill fel ymarfer corff lle mae gennym ni ddealltwriaeth dda o amlder, dwyster, math ac amser gofynnol gweithgaredd.

Fel cam cyntaf byddwn yn casglu mesuriadau tymheredd a lleithder mewn sawl safle yn y sawna. O hyn, gallwn greu “map gwres” o'r ystafell sawna, a byddwn yn gallu cymharu'r effeithiau ffisiolegol (e.e. tymheredd, cyfradd curiad y galon, cysur thermol) ar gyfer unigolion sy'n eistedd ar feinciau gwahanol ac mewn gwahanol safleoedd mewn perthynas â ffynhonnell y tân. Bydd y map gwres hwn yn darparu gwaelodlin da pan fyddwn yn cymharu ein hamodau sawna â'r rhai mewn astudiaethau a wnaed eisoes. Bydd hyn yn ei dro yn gymorth i ddeall sut i deilwra canllawiau sawna at unigolion gwahanol.
Ar sail y llenyddiaeth wyddonol, byddwn yn datblygu canllawiau seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer defnyddio’r sawna yn effeithiol. Bydd hyn yn cynnwys gwybodaeth fel pa mor aml y dylech chi fynd i’r sawna, am faint, amseroedd egwyl a beth yw’r ffordd orau o oeri rhwng pob eisteddiad.

Ers tarddiad y sawna - y credir ei fod yn dyddio'n ôl 10,000 o flynyddoedd - mae’r sawna wedi bod yn gysylltiedig â buddion iechyd. Mae eu poblogrwydd hefyd yn cynyddu, yn ôl. Yn wir, mae nifer y sawnau cyhoeddus tebyg i rai’r Ffindir rhwng dechrau 2023 a 2024, gan gynyddu o 45 i 90 - ffigwr y rhagwelir y bydd yn fwy na 200 yn 2025.
Rydym ni ar ben ein digon o fod yn rhan o’r ymchwil newydd yma gyda Phrifysgol Bangor. Mae llawer o'n cwsmeriaid yn gofyn i ni am ganllawiau o ran sut orau i ddefnyddio'r sawna yn effeithiol ac yn ddiogel. Fel busnes sy’n cael ei redeg gan ddau deulu sy’n gwasanaethu ein cymuned leol – gyda dros ddwy ran o dair o’n cwsmeriaid yn bobl leol – rydym ni wrth ein bodd yn creu cyngor clir, wedi’i gefnogi gan ymchwil y gall unrhyw un ei ddilyn i wneud y mwyaf o’r buddion iechyd a lles o ddefnyddio’r sawna.
Mae'n wych cael yr arbenigedd yma yng Ngogledd Cymru - gwyddonwyr o'r radd flaenaf a'n sawna yn cydweithio i ddod ag arloesi gwirioneddol i'r ardal. Bydd yr ymchwil hwn nid yn unig yn gwella profiad pobl yn y sawna a lles ein cymuned leol ond hefyd yn creu canllawiau sy'n hynod berthnasol i bawb drwy’r byd sy’n hoff o ddefnyddio’r sawna. Rydym ni'n hapus iawn yn helpu datblygu arferion gorau i bawb ac yn edrych ymlaen at weld beth mae'r ymchwil yn ei ddatgelu.

Rydym yn falch iawn o ddyfarnu Taleb Sgiliau ac Arloesedd i Sawna Bach. Mae gan ein hacademyddion gyfoeth o wybodaeth ac arbenigedd a bydd y cymorth y gallwn ei ddarparu yn y pen draw o fudd i adnabod manteision iechyd defnyddio sawna yn rheolaidd. Ar ôl gweld fod cryn ddiddordeb yn ein Talebau Sgiliau ac Arloesedd, rydym ni wrth ein bodd ein bod wedi cefnogi dros 40 o fusnesau hyd yn hyn ar draws Ynys Môn, Gwynedd a Sir y Fflint dros yr wyth mis diwethaf. Gobeithiwn barhau i gefnogi hyd yn oed mwy o gwmnïau o ogledd Cymru, a chydweithio â nhw wrth symud ymlaen.

Cefnogir y Cynllun Talebau Sgiliau ac Arloesedd gan Gyngor Gwynedd. Mae’r project wedi derbyn £360,000 gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig ac mae wedi’i ymestyn tan 31 Mawrth.
Roedd tri math o daleb ar gael, y gellir eu defnyddio mewn sawl maes gan gynnwys ymchwil a datblygu, gwaith ymgynghori, sgiliau a hyfforddiant, defnyddio cyfleusterau prifysgol, defnyddio offer arbenigol, a mynediad at wybodaeth:
Midi: Hyd at £5,000 am bump i wyth diwrnod o gefnogaeth; Maxi: Hyd at £10,000 am 10 i 15 diwrnod o gefnogaeth, a Talent, gyda gwerth hyd at £5,000 ar gyfer interniaeth raddedig 12 wythnos.Ewch i neu e-bostiwch siv@bangor.ac.uk i wybod mwy.