Gwnaeth y fenter hon amlygu’r potensial o gysylltu creadigrwydd a thechnoleg yn rhwydd. Mae’r Diwydiannau Creadigol, sy’n werth tua £125 biliwn i economi’r Deyrnas Unedig, yn sbardun allweddol i dwf, a dylai cerddoriaeth fod ar flaen y gad o ran datblygiad technolegol. O ddylunio sain archfarchnadoedd i draciau sain gemau fideo trochi, mae cyfuno’r meysydd hyn yn siapio profiadau bob dydd ac yn ysgogi arloesedd.
Mae'r diwydiannau creadigol yn chwarae rhan hanfodol yn economi'r Deyrnas Unedig, ac mae gan ddeallusrwydd artiffisial le i hybu ymdrechion y diwydiannau hyn. Fodd bynnag, mae'n hanfodol ystyried sut mae'r technolegau hyn yn ymgysylltu â bywyd dynol. Atgyfnerthodd yr her hon pa mor bwysig yw deall y rhyngweithio rhwng pobl a deallusrwydd artiffisial, a'r angen am ddeallusrwydd artiffisial cyfrifol. Gall y diwydiannau creadigol helpu gyda’r genhadaeth hon, gan ddefnyddio creadigrwydd dynol i wireddu gwasanaethau sy’n diddanu, yn cyfoethogi ac yn ysbrydoli, yn hytrach na thrin neu ecsbloetio.
Mae Prifysgol ÌìÌì³Ô¹Ïyn falch o fod wedi bod yn rhan o’r fenter drawsnewidiol hon, gan gyfrannu ei harbenigedd at broject sy’n amlygu potensial aruthrol y Diwydiannau Creadigol a thechnoleg newydd. Mae’r adroddiad terfynol yn gwneud argymhellion allweddol i Lywodraeth y Deyrnas Unedig, gan gynnwys yr angen am fwy o fuddsoddiad mewn ymchwil a datblygiad, gwell llwybrau addysgol i fynd i'r afael â bylchau sgiliau, a phartneriaethau cryfach rhwng diwydiant a'r byd academaidd.
Mae'r Brifysgol yn parhau i fod yn ymrwymedig i gefnogi arloesedd yn y maes hwn, gan sicrhau bod creadigrwydd a thechnoleg yn parhau i ffynnu mewn cytgord er budd cenedlaethau'r dyfodol.
Ìý