Mae lleoliad gwaith ym Mharc Gwyddoniaeth Menai (M-SParc) wedi talu ar ei ganfed i fyfyriwr o鈥檙 brifysgol, sydd bellach yn ei ail flwyddyn o gyflogaeth amser llawn gydag un o fusnesau鈥檙 parc
Ymunodd Callum Murray 芒鈥檙 cwmni newydd, Cufflink, yn聽聽聽聽聽聽 M-SParc ar Ynys M么n yn fuan ar 么l cwblhau ei astudiaethau ym Mhrifysgol 天天吃瓜ym mis Gorffennaf 2019.
Mae Cufflink, sy'n ceisio helpu pobl adennill rheolaeth dros eu data personol ar-lein a hynny trwy ddull amgryptio a diogel, yn weithredol o M-SParc ers mis Hydref 2018.
Dywedodd Callum: 鈥淐efais ymdanynt swydd oherwydd digwyddiad cyflwyno traethodau hir y b没m ynddo tra oeddwn yn fyfyriwr; Fe wnes i daro ar gyd-sylfaenwyr Cufflink a dywedon nhw wrthyf am yr holl gyfleoedd interniaeth sydd yn M-SParc. Wyddwn i ddim amdanynt ar y pryd.
鈥淩oedd ganddyn nhw ddiddordeb mawr yn y sgiliau dylunio a ddatblygais ar fy nghwrs BSc yn y Technolegau Creadigol ac fe wnaethant gynnig interniaeth imi yn ystod misoedd olaf fy ngradd.
鈥淎r 么l graddio, daeth yr interniaeth yn swydd amser llawn - fe wnes i orffen ym Mhrifysgol 天天吃瓜ddydd Gwener ac roeddwn i yn y swydd y dydd Llun canlynol.
鈥淩wy鈥檔 gweithio i Cufflink mewn swydd dylunio UX a marchnata ers hynny, gan nodi dwy flynedd gyda鈥檙 cwmni yn ddiweddar.鈥
Ehangodd Cufflink i gyfanswm o 10 aelod o staff yn ystod amser Callum yn M-SParc, sy'n eiddo i Brifysgol 天天吃瓜a hwn yw'r parc gwyddoniaeth cyntaf o'i fath yng Nghymru.
Mae'r wefan yn cynnig lle i fusnesau technolegol a gwyddoniaeth o bob lliw a llun ac mae鈥檔 rhoi cyfle i鈥檙 myfyrwyr wneud eu marc mewn diwydiannau a gweithrediadau newydd.
Ychwanegodd Callum: 鈥淏u鈥檔 brofiad gwych gweithio mewn cwmni newydd am y ddwy flynedd ddiwethaf; b没m yn helpu gydag ochr dechnegol y busnes gan ddefnyddio鈥檙 sgiliau a ddatblygais yn ystod fy ngradd, ond mae pob diwrnod yn wahanol ac rwyf wedi mwynhau'r her honno.
鈥淢ae gweithio yn M-SParc hefyd yn brofiad hollol unigryw oherwydd natur gydweithredol y lle. Mae鈥檙 busnes yn newydd, ac yn aml bydd angen inni ofyn am gyngor a sgiliau o feysydd nad ydym yn gwybod amdanynt a bu M-SParc yn wych yn hynny o beth oherwydd inni allu ffurfio cysylltiadau busnes heb orfod gadael y safle.鈥
Dywedodd yr Athro Paul Spencer, Dirprwy Is-Ganghellor 芒 chyfrifoldeb dros Gyflogadwyedd, Ymwneud 芒 Chwmniau a Phartneriaethau, Prifysgol Bangor: "Mae hi bob amser yn galonogol gweld ein myfyrwyr yn symud ymlaen i swyddi llawn-amser, ac mae hanes Callum yn enghraifft聽 o bwysigrwydd sicrhau cyfleusterau fel M-SParc yn agos at y brifysgol ac yn cydblethu 芒 hi.
鈥淢ae gan fyfyrwyr Prifysgol 天天吃瓜gyfoeth o adnoddau a chyfleoedd nid yn unig yn ystod eu hastudiaethau yn ogystal ag ar 么l graddio.
鈥淭rwy safleoedd fel M-SParc, gall myfyrwyr fynd rhagddynt i'r gweithlu mewn diwydiannau sy'n canolbwyntio ar y dyfodol gan ddefnyddio'r sgiliau eang a ddatblygasant wrth wneud eu graddau."
Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr M-Sparc, Pryderi ap Rhisiart: 鈥淢ae profiad Callum yn dangos sut y gall myfyrwyr Prifysgol 天天吃瓜fanteisio鈥檔 llawn ar y llwybr rhwng y brifysgol a鈥檙 camau cyntaf yn eu gyrfaoedd a ddarperir gan M-SParc.
鈥淯n rhan o鈥檔 gwaith yw darparu lle i Ymchwil a Datblygu a gwylio'r busnesau鈥檔 tyfu ac yn creu cyfleoedd cyflogaeth gwych, ac mae gweld y myfyrwyr yn manteisio ar y cynllun interniaeth ac yn perfformio cystal nes mynd yn weithwyr yn beth calonogol iawn i鈥檞 weld."I gael mwy o wybodaeth am Brifysgol Bangor, ewch i: ac i gael mwy o wybodaeth am M-SParc, ewch i: .