Athro Prifysgol ÌìÌì³Ô¹Ïyn enill ‘Fedal Blatinwm’ Sefydliad Deunyddiau, Mwynau a Mwyngloddio
Mae’r Athro Bill Lee, Athro Sêr Cymru mewn Deunyddiau ar gyfer Amgylcheddau Eithafol ym Mhrifysgol ÌìÌì³Ô¹Ïwedi derbyn y ‘Fedal Blatinwm’ gan y Sefydliad Deunyddiau, Mwynau a Mwyngloddio (IOM3).
Rhannwch y dudalen hon
Mae'r IOM3 yn sefydliad gwyddoniaeth a pheiriannau yn y DU sydd yn hyrwyddo ac yn datblygu Cylch Deunyddiau, o archwilio ac echdynnu i nodweddu, prosesu a chymhwyso, i ailgylchu, ailgyflenwi ac ailddefnyddio cynnyrch.
Mae enillydd y Fedal Blatinwm IMO3 yn cael ei dewis gan Bwyllgor IOM3 sydd yn cydnabod cyfraniadau rhagorol i wyddoniaeth deunyddiau, technoleg a diwydiant.
Dywedodd yr Athro Lee sy'n bennaeth Sefydliad Dyfodol Niwclear Prifysgol ÌìÌì³Ô¹Ïac enillydd y Fedal Blatinwm.
Mae o’n anrhydedd mawr derbyn y wobr hon ac yn braf cael cydnabyddiaeth gan eich cyfoedion yn enwedig yng nghanol pandemig! Er na fi sydd yn derbyn y Wobr Blatinwm, mae rhaid cydnabod gwaith caled, ymdrech a thalent yr ymchwilwyr yn fy nhimau, yn ogystal â chydweithwyr academaidd, diwydiant a'r llywodraeth.
Yr Athro Bill Lee
Mae'r Athro Lee hefyd wedi ennill Gwobr Distinguished Life Member gan yr American Ceramic Society yn ddiweddar. Y wobr hon yw'r anrhydedd uchaf a roddir i aelodau'r sefydliad gwyddonol a thechnegol ac mae'n cydnabod cyfraniad amlwg i'r proffesiwn gwyddorau ceramig a gwydr.