Gweithio i ddiogelu'r cyhoedd yn erbyn firysau a bacteria sy'n gallu gwrthsefyll gwrthfiotigau
Ymhle yn ein dyfrffosydd y ceir firysau a bacteria sy'n gallu gwrthsefyll gwrthfiotigau a pha mor hir y maent yn byw?
Heddiw (14 Mawrth) yn y Royal Geographic Society yn Llundain mae gwyddonwyr sy'n gweithio i leihau'r risgiau i'r cyhoedd drwy ddod i gysylltiad 芒 bacteria sy'n gallu gwrthsefyll gwrthfiotigau yn yr amgylchedd d诺r yn cyfarfod i rannu eu hymchwil a thrafod y camau nesaf.
Firysau yw un o'r bygythiadau mwyaf i iechyd pobl. Gwyddom y gallant fod yn y bwyd rydym yn ei fwyta, ond yr hyn nad ydym yn ei wybod yw eu hunion daith o dd诺r gwastraff i bysgod cregyn neu ffrwythau a llysiau.
Daw bygythiad arall i'n hiechyd o du bacteria sy'n gallu gwrthsefyll gwrthfiotigau. Mae'r rhain yn digwydd yn naturiol yn yr amgylchedd, ond maent i'w cael hefyd mewn tail a charthion sy'n deillio o ddefnydd gwrthfiotigau mewn pobl neu anifeiliaid.
Mae'r gwyddonwyr yn cyfarfod ag ystod o asiantaethau llywodraeth, cyrff cyhoeddus a chwmniau preifat, fel y gallant nid yn unig rannu eu modelu a darganfyddiadau cyfredol, ond hefyd drafod beth sydd angen i'r diwydiant a rheoleiddwyr ei wneud er mwyn lleihau risg i'r cyhoedd.
Mae'r ddau broject ymchwil sy'n cael eu trafod yn rhan o raglen Microbioleg Amgylcheddol ac Iechyd Dynol NERC i roi'r dystiolaeth wyddonol i alluogi adnabod micro-organebau pathogenaidd a deunydd biolegol yn yr amgylchedd yn gyflym ac effeithlon.
Nod project VIRAQUA, sydd wedi'i leoli ym mhrifysgolion 天天吃瓜a Lerpwl, yw darganfod sut mae firysau sy'n ein gwneud yn s芒l yn mynd i'n cadwyn fwyd (gan roi sylw arbennig i hylendid pysgod cregyn), pa mor hir mae'r broses yn ei gymryd a beth sy'n digwydd ar y ffordd.
Meddai Dr Kata Farkas, prif wyddonydd ymchwil VIRAQUA yn Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth Prifysgol Bangor:
鈥淔e wnaethom ddatblygu ffyrdd o ddarganfod y firysau yn yr amgylchedd a all ein gwneud yn s芒l. Gellir safoni'r dulliau hyn yn awr a'u defnyddio gan yr awdurdodau i ddibenion monitro. Mae hyn yn bwysig gan y gall y canlyniadau gael eu cymharu wedyn a'u gwirio'n hawdd.
Fe wnaethom ddarganfod bod y firysau hyn, megis norofirws - a elwir hefyd yn haint chwydu'r gaeaf - yn aros mewn d诺r am gyfnod hir, gan deithio gyda'r llif a'r cerrynt. Mae hyn yn cyfrannu at ledaenu haint. Gan ddefnyddio technolegau moleciwlaidd diweddaraf rydym hefyd yn darganfod firysau diddorol a newydd ac yn ymchwilio p'un a all y firysau hynny heintio pobl."
Mae canlyniadau o'r project wedi cael eu bwydo i fodelau mathemategol a all ragweld sut mae'r firysau'n teithio drwy'r amgylchedd o le trin d诺r gwastraff i'r m么r. Drwy ddefnyddio'r cymhorthion gweledol hyn, gellir nodi mannau risg uchel a all arwain at newidiadau mewn ymdrochi neu gynaeafu pysgod cregyn, gan arwain at amgylchedd diogelach yn gyffredinol ac amddiffyn iechyd pobl.
Ychwanegodd Dr Kata Farkas: "Dros y degawd diwethaf, ymchwiliwyd i firysau newydd sy'n dod i'r amlwg, megis y firws Zika. Ymysg y firysau hyn, mae llawer yn bathogenau dynol sy'n achosi afiechydon mewn gwledydd sy'n datblygu a gwledydd datblygedig, yn cynnwys y DU. O ganlyniad i lygredd byd-eang, mae'r firysau hyn i'w cael yn aml yn yr amgylchedd, gan arwain at afiechydon yn ddeillio o dd诺r a bwydydd."
Ychwanegodd Dr Evelien Adriaenssens, sy'n arwain gwyddonwyr ymchwil VIRAQUA ym Mhrifysgol Lerpwl: "Ar hyn o bryd mae yna fwlch gwybodaeth enfawr ynghylch llawer gr诺p o firysau, oherwydd eu bod yn anodd i'w meithrin neu oherwydd nad oes gennym ddigon o wybodaeth ynghylch eu hamrywiaeth. Felly rydym wedi troi at ddulliau megis metafiromeg, sy'n ddadansoddiad ar sail dilyniant o'r holl firysau a geir mewn amgylchedd. Mae datblygiadau diweddar mewn technolegau dilyniannu yn golygu y gallwn ddefnyddio'r dulliau metafiromeg hyn i astudio firysau mewn unrhyw amgylchedd heb unrhyw wybodaeth flaenorol o ba firws sy'n bresennol. Hyd yma, rydym wedi medru canfod presenoldeb nifer luosog o firysau pathogenaidd posibl, megis norofirws, sapofirws a rotafirws, mewn d诺r gwastraff, ac rydym yn ymchwilio ar hyn o bryd i weld a yw'r firysau hyn yn teithio drwy systemau afonydd ac aberoedd i gyrraedd traethau ymdrochi a gwelyau pysgod cregyn."
Dyddiad cyhoeddi: 14 Mawrth 2018