
Cynhaliwyd dwy sesiwn wirfoddoli鈥攜 cyntaf ar 11 Rhagfyr, lle gwelwyd 20 o fyfyrwyr yn cymryd rhan, a鈥檙 ail ar 5 Chwefror, lle gwirfoddolodd 16 o fyfyrwyr. Roedd sesiwn mis Chwefror yn rhan o Wythnos Wirfoddoli Undeb Bangor, a oedd yn cynnwys digwyddiadau cymunedol megis digwyddiad glanhau traeth a chaffi atgyweirio.
Mae myfyrwyr wedi bod yn gweithio ochr yn ochr ag aelodau鈥檙 gymuned leol i dacluso ymylon y llwybrau, clirio prysgwydd ac eithin, casglu sbwriel, a phlannu 15 o goed ffrwythau; afalau, gellyg ac eirin.
Dywedodd Josie Ball, sef Cydlynydd Gwirfoddoli a'r Gymuned: 鈥淢ae鈥檔 arbennig iawn cael bod yn rhan o鈥檙 project hwn a gweld myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth gynnal mannau gwyrdd yn ein cymuned leol. Rydym wedi bod wrth ein boddau鈥檔 gweithio gydag aelodau鈥檙 gymuned i drawsnewid Pen Y Bonc yn fan croesawgar sy鈥檔 cael ei gynnal a鈥檌 gadw鈥檔 dda. Diolch o galon i bawb sy鈥檔 rhan o鈥檙 project, gan gynnwys Cyngor Gwynedd a Chyngor Dinas Bangor, am eu cyllid a'u cefnogaeth. Mae gwaith t卯m yn gwneud projectau fel hyn hyd yn oed yn fwy pleserus a llwyddiannus!"

Mae Pen Y Bonc yn eiddo i Gyngor Dinas Bangor, sydd wedi cefnogi鈥檙 project yn llawn. Mae cyllid wedi ei ddarparu gan Gyngor Gwynedd trwy eu rhaglen Partneriaeth Natur Leol. Y weledigaeth yw creu man croesawgar a hygyrch i鈥檙 gymuned leol, gyda golygfeydd godidog o Ynys M么n, gan hefyd annog bywyd gwyllt lleol. Bwriedir i'r dyluniad fod yn gynaliadwy ac yn hawdd i鈥檞 gynnal, gan adlewyrchu'r adnoddau gymharol fach sydd ar gael.
Ychwanegodd yr ecolegydd lleol, John Ratcliffe: 鈥淩oedd Pen Y Bonc yn denu sbwriel, roedd wedi cael ei esgeuluso ac yn galw am ofal tyner a chariadus. Cytunodd cyfarfod cymunedol ar fesurau i wella pa mor ddeniadol ydyw i bobl a bywyd gwyllt. Mae hyn yn cynnwys perllan ar y llethrau isaf i ddarparu ffrwythau, tocio eithin yn 么l, torri gwair a hau i hybu d么l sy'n llawn blodau. Mae cefnogaeth gan gymuned y myfyrwyr wedi bod yn hwyl ac yn wirioneddol ysbrydoledig, ond dwi鈥檔 meddwl bod y cyflenwad o gacennau wedi helpu hefyd."
Mae鈥檙 uchelgais ar gyfer y dyfodol yn cynnwys gosod meinciau fel y gall pobl eistedd a mwynhau鈥檙 man gwyrdd a鈥檙 golygfeydd ar draws y Fenai. Os hoffech ymweld 芒'r safle a phrofi ei harddwch naturiol, dim ond taith gerdded pum munud ydyw o Brif Adeilad y Celfyddydau鈥檙 Brifysgol, gyferbyn ag Eglwys Bentecostaidd Cynulliadau Duw.
I gael rhagor o wybodaeth neu i gymryd rhan, cysylltwch 芒 gwirfoddoli@undebbangor.com.

听