Rhaid i unrhyw broject ymchwil a wneir o fewn Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol ac sy’n cynnwys cyfranogwyr dynol lynu wrth y Polisi Moeseg Ymchwil sydd wedi’i amlinellu yn y canllawiau a’r gweithdrefnau.
Bydd Pwyllgor Moeseg Ymchwil y Coleg yn sicrhau bod gwaith ymchwil a wneir yng Ngholeg y Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol, neu a gefnogir ganddo, yn cael ei wneud mewn modd moesegol ac yn unol â Fframwaith Moeseg Ymchwil y Brifysgol.
I gael rhagor o wybodaeth, edrychwch ar y dogfennau ar y wefan hon neu cysylltwch â cahssethics@bangor.ac.uk.
Pwy sydd angen cyflwyno cais moeseg?
Os yw eich prosiect yn ymwneud â chasglu data cynradd gan bobl neu anifeiliaid, mae’n rhaid cael cymeradwyaeth foesegol gan Goleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol. Mae hyn yn berthnasol i’r holl staff a myfyrwyr (israddedigion ac ôl-raddedigion).
Os mai dim ond defnyddio data eilaidd ydych chi, sydd ar gael i'r cyhoedd, h.y. data a gasglwyd gan rywun arall, NID OES angen cymeradwyaeth foesegol ar eich project. Enghreifftiau da yw adnoddau heb gyfyngiad ar y rhyngrwyd, data'r cyfrifiad, dogfennau o archifau cenedlaethol, a chorpysau megis CHILDES neu TalkBank.
Sut mae cyflwyno cais moeseg?
Bydd angen gwneud pob Cais Moeseg Ymchwil newydd drwy'r system Infonetica. Y cam cyntaf yw darllen y ddwy ddogfen ganlynol yn ofalus:
Ar ôl i chi ddarllen y dogfennau, bydd angen i chi neu'ch goruchwyliwr gyflwyno cais trwy'r eisteddle Infonetica.
Fel arfer dylid defnyddio'r ffurflen gydsynio ganlynol (wedi ei diwygio fel y bo'n briodol):
Os yw eich cyfranogwyr yn blant neu oedolion bregus, efallai y bydd angen i chi wneud gwiriad DBS. Trafodwch gyda'ch goruchwyliwr neu Swyddog Moeseg yr Ysgol, neu cysylltwch â Karen Williams am ragor o wybodaeth.
Gwybodaeth i Ymgeiswyr Myfyrwyr Israddedig a PGT
Os ydych yn fyfyriwr israddedig neu ôl-raddedig a addysgir, rhaid i'ch goruchwyliwr greu a chyflwyno'ch cais moeseg. Rhaid i'r goruchwyliwr eich rhestru fel cyd-ymchwilydd.
Yn ddewisol, gall eich goruchwyliwr roi rôl i chi i ganiatáu cydweithio ar lenwi'r ffurflen. Yn gyntaf bydd angen i'r goruchwyliwr greu cais newydd, darparu teitl, ac yna rhoi rôl i chi a gadael iddynt ei llenwi. Yna bydd y goruchwyliwr yn dod i mewn ar y diwedd ac yn ei lofnodi i ganiatáu cyflwyno.
Os yw eich goruchwyliwr yn dymuno, gall wneud y cyflwyniad cyfan ei hun ar eich rhan. Byddwch yn dal i gael gweld y cais oherwydd byddwch yn cael eich rhestru fel cyd-ymchwilydd, a bydd angen i chi lofnodi'r ffurflen cyn y gellir ei chyflwyno.
Gwybodaeth i Ymgeiswyr sy'n Fyfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig
Bydd angen cyflwyno pob prosiect newydd sydd angen adolygiad moesegol yma: . Mae sleidiau hyfforddi ar sut i lywio a defnyddio'r platfform i'w gweld ar y wefan ei hun o dan Help > Help.
Os mai chi yw'r un sy'n cyflwyno cais, rhaid i chi restru'ch goruchwyliwr fel cyd-ymchwilydd. Gallwch hefyd roi rôl i'ch goruchwyliwr i ganiatáu cydweithio ar lenwi'r ffurflen.
Gallwch ddod o hyd i dempled o'r cwestiynau a ofynnir i chi ar y wefan yma. Efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi fynd dros hyn gyda'ch goruchwyliwr cyn cyflwyno cais. Bydd y wefan ei hun yn gadael i chi hepgor yr adrannau nad ydynt yn berthnasol.
Gwybodaeth i Ymgeiswyr Staff
Bydd angen cyflwyno pob prosiect newydd sydd angen adolygiad moesegol yma: . Mae sleidiau hyfforddi ar sut i lywio a defnyddio'r platfform i'w gweld ar y wefan ei hun o dan Help > Help. Os bydd angen cymorth pellach arnoch, gallwch gysylltu â gweinyddwr Infonetica y Coleg yn p.shanahan@bangor.ac.uk
Pa mor hir mae'n ei gymryd i gymeradwyo prosiect?
Dylai cymeradwyaeth drwy'r system Infonetica gymryd hyd at 30 diwrnod, er ein bod yn ymdrechu i gael newid byrrach gyda phrosiectau cyffyrddiad ysgafn. Yn achos prosiectau sensitif y mae angen eu hystyried ar lefel Prifysgol, gall y broses gymryd hyd yn oed yn hirach.
Ymchwil Sensitif
Mae Prifysgol ÌìÌì³Ô¹Ïyn cefnogi ei hymchwilwyr wrth ymgymryd ag ymchwil ddilys sy'n defnyddio deunydd sensitif. Fel rhan o hyn mae'n cydnabod y cyfrifoldeb sydd arni i sicrhau bod ymchwilwyr yn cael eu diogelu rhag camddehongli bwriad gan yr awdurdodau a allai arwain at sancsiynau cyfreithiol. Mae felly’n hanfodol fod y Brifysgol yn ymwybodol o waith ymchwil o'r fath, ac yn ei awdurdodi drwy'r prosesau moesegol priodol, cyn i'r gwaith ymchwil ddechrau, gan ganiatáu felly i'r Brifysgol ddangos ei bod yn ymwybodol o'r project a dangos ei fod wedi bod drwy'r broses adolygu briodol.
Cysylltiadau defnyddiol
- Canllawiau Moeseg Ymchwil
- Gweithdrefnau Cymeradwyo Moeseg
- Ymchwil Sensitif - Canllawiau
- Ffurflen Gydsynio i Gyfranogwyr
- Fframwaith Moeseg Ymchwil Prifysgol Bangor
- Diogelu Data
Pwyllgor Moeseg Ymchwil
Aelod | Swyddogaeth |
---|---|
Christopher Shank | Cadeirydd y Pwyllgor |
Dyfrig Jones | Swyddog Moeseg: Ysgol Iaith, Diwylliant a'r Celfyddydau |
Wei Shi | Swyddog Moeseg: Ysgol Hanes, Y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas |
Chrysovalantis Vasilakis | Swyddog Moeseg: Ysgol Busnes Bangor |
Colin Ridyard | Uwch Swyddog Llywodraethu a Pholisi Ymchwil |
Phoebe Shanahan | Gweinyddwr Moeseg a Chyswllt DBS |