Cysylltiadau Cyflym
- Cymerwch olwg ar ein
Nwyddau Brand
Hoffech chi gael dillad yn lliwiau'r Brifysgol neu swatio wrth ochr tedi ciwt? Wel mae nwyddau neilltuol Prifysgol Bangor, a gynlluniwyd yn arbennig, ar gael i chi.
Mae gan Brifysgol 天天吃瓜nwyddau neilltuol wedi eu cynllunio'n arbennig. Efallai mai un o'n teis sidan hardd fydd yn denu eich sylw, neu ymlacio efallai mewn hwdi lliwgar o'n dewis helaeth; mae gennym rywbeth sy'n apelio i bawb o ran chwaeth a聽 phrisiau. Mae ein dewis o nwyddau wedi'u hymestyn i gynnwys crysau polo a chrysau T, gorchuddion gliniaduron, mygiau a bagiau am oes. Rydym hefyd yn gwerthu tedis traddodiadol o wahanol faint, sgarffiau cynnes, cyfflincs, pennau ysgrifennu a llyfr nodiadau.
Gellir gweld nwyddau brand y brifysgol mewn cypyrddau arddangos ar draws y campws, yng Nghaffi'r Teras ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau, cyntedd Neuadd Reichel a Bar Uno. Gellir prynu nwyddau o siop Barlows yn Santes Fair ac yn y siop hwylus ar safle Ffriddoedd sy'n gwerthu'r dewis llawn o ddillad mewn gwahanol feintiau a lliwiau. Gellwch eu trio amdanoch cyn i chi brynu.
Gellwch hefyd brynu o'n siop ar-lein.