Ysgol Seicoleg yn ennill gwobr Efydd Athena SWAN
Mae Ysgol Seicoleg Prifysgol ÌìÌì³Ô¹Ïwedi derbyn Gwobr Efydd Athena SWAN gan yr. Mae'r Equality Challenge Unit yn cefnogi sefydliadau addysg uwch ar draws y DU i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth i holl staff a myfyrwyr. Mae siarter Athena SWAN yr Equality Challenge Unit yn cydnabod yn benodol ymrwymiad i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb rhwng y rhywiau o fewn addysg uwch.
Rhoddwyd gwobr adran Efydd i gydnabod bod yr Ysgol Seicoleg, yn ychwanegol at bolisïau ar draws y Brifysgol, wedi nodi heriau penodol o ran cydraddoldeb rhywiol, yn ogystal â datblygu cynllun ar gyfer y dyfodol a fydd yn adeiladu ar yr asesiad hwn ac yn gweithio tuag at gael gwared ar rwystrau i ddilyniant a llwyddiant ar gyfer holl staff a myfyrwyr. Bydd y wobr yn ddilys tan 2019 pan y gellir unai ei hadnewyddu neu ei disodli gan ddyfarniad Athena SWAN lefel uwch.
Dywedodd yr Athro John Parkinson, Pennaeth yr Ysgol:
"Rwy'n falch iawn ein bod wedi llwyddo gyda’n cais ar gyfer gwobr Efydd Athena SWAN. Mae hyn wedi bod yn ymdrech tîm rhagorol, o dan arweiniad deinamig Emily Cross a gyda chefnogaeth gan nifer o unigolion ymroddedig. Bydd y cais llawn, gan gynnwys dadansoddiadau niferus ynghylch cydraddoldeb rhwng y rhywiau ar bob lefel (o lefel israddedig hyd at lefel athro) yn yr Ysgol, yn cael ei osod ar wefan Ysgol Seicoleg ÌìÌì³Ô¹Ïyn y man i bawb eu gweld. Yn arwyddocaol, mae’r tîm hunanasesu Athena SWAN wedi drafftio cynllun gweithredu a byddwn yn anelu i roi hwn ar waith dros yr ychydig flynyddoedd nesaf i gydraddoli ymhellach yr amgylchedd weithio ac astudio ar gyfer pob aelod o'r Ysgol."
Yr Ysgol Seicoleg yw'r ail ysgol yn y Brifysgol i ennill Gwobr Efydd Adrannol, yn dilyn llwyddiant yr Ysgol Gwyddor Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer yn ennill gwobr Efydd yn 2015. Mae Prifysgol ÌìÌì³Ô¹Ïhefyd gyda statws gwobr Prifysgol Efydd Athena SWAN.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Mai 2016