Prifysgol ÌìÌì³Ô¹Ïyn lansio Canolfan Gwerth Cymdeithasol newydd
Ddydd Mawrth, 11 Mehefin, bydd Ysgol Gwyddorau Iechyd Prifysgol ÌìÌì³Ô¹Ïyn lansio Canolfan Gwerth Cymdeithasol newydd.
Rydym yn lansio'r Ganolfan Gwerth Cymdeithasol oherwydd y galw cynyddol sydd am atebolrwydd mewn sefydliadau cyhoeddus a'r trydydd sector, a'r angen i raglenni a ariennir ddangos 'tystiolaeth o effaith gymdeithasol'.
Bydd y digwyddiad yn disgrifio'r gwaith sydd ar y gweill gan y Ganolfan Gwerth Cymdeithasol, a bydd yn lansio partneriaeth gyda phroject 'Gogledd Cymru Well' Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Mae’r siaradwyr yn cynnwys:
- Ben Carpenter (Prif Swyddog Gweithredol Social Value UK)
- Teresa Owen, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Eleri Lloyd (Rheolwr Gwerth Cymdeithasol, Mantell Gwynedd)
- Glynne Roberts, Cyfarwyddwr, Gogledd Cymru Well
Mae croeso i'r cyhoedd.
Am fwy o wybodaeth ac i gadw lle
Diben y Ganolfan yw cynnig cefnogaeth a hyfforddiant i sefydliadau lleol a rhanbarthol, a'u galluogi i gloriannu a chyfleu'r newidiadau cadarnhaol y maent yn eu creu yn eu cymunedau. Mae'r Ganolfan yn darparu fframwaith i sefydliadau ar gyfer mesur newid mewn ffyrdd sy'n berthnasol i'w rhanddeiliaid.
Mae'r Ganolfan yn defnyddio dulliau ansoddol, meintiol ac ariannol, i wneud dadansoddiad o werth cymdeithasol cadarn sy'n disgrifio sut mae newid yn cael ei greu ar gyfer y bobl sy'n elwa ar weithgareddau a rhaglenni a gyflwynir gan sefydliadau.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Mai 2019