Gwobr o’r Unol Daleithiau i arbenigwr mewn Heneiddio
Yr Athro Bob Woods o Brifysgol Bangor, arbenigwr a gydnabyddir yn rhyngwladol am ei waith ar heneiddio a dementia, fydd y person cyntaf y tu allan i America i dderbyn Gwobr Americanaidd ddydd Iau 13 Hydref 2011.
Bydd yr Athro Bob Woods, sydd yn Gyfarwyddwr Canolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia ac Athro Seicoleg Glinigol yr Henoed ym Mhrifysgol ÌìÌì³Ô¹Ïyn derbyn y degfed Wobr Reisberg Blynyddol ac yn traddodi darlith yn New York wrth ei dderbyn.
Mae’r Wobr Flynyddol yn cael ei ddyfarnu ar y cyd gan "I’m still here Foundation", corff sy'n cefnogi gofal a thriniaeth ar gyfer y pum miliwn o bobl sy’n byw gyda chlefyd Alzheimer yn yr Unol Daleithiau a Dr Barry Reisberg, Cyfarwyddwr Clinigol Canolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia Prifysgol Efrog Newydd. Mae’n cydnabod pobl sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig ym maes triniaeth ddi-gyffur ar gyfer clefyd Alzheimer.
Bydd yr Athro Woods yn areithio i weithwyr proffesiynol a phartneriaid gofal yn y cyfarfod yn Efrog Newydd ar y testun: Dod o hyd i obaith mewn gofal dementia: Pa wahaniaeth a wnawn?
Mae Bob Woods yn seicolegydd clinigol sydd wedi bod yn gysylltiedig â datblygu a gwerthuso ymyriadau seicolegol i bobl â dementia a'u cefnogwyr am 35 mlynedd. Mae wedi arloesi ym maes ymdriniaeth sy'n seiliedig ar dystiolaeth, yn enwedig mewn perthynas ag ysgogiad gwybyddol a gwaith hel atgofion. Mae'n parhau i weithio yn glinigol ac yn arwain rhaglen lledaenu eang, gan gynnwys hyfforddiant staff a datblygiad y gwasanaeth. Mae wedi derbyn gwobrau gan y Gymdeithas Seicolegol Brydeinig a'r Gymdeithas Alzheimer, sy’n cydnabod ei gyfraniad wrth ymwneud â datblygu a gwerthuso.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Hydref 2011