Gwobr Goffa Llew Rees yn cael ei rhoi i chwaraewr rygbi hynod addawol
Rhun WilliamsMae Prifysgol ÌìÌì³Ô¹Ïwedi dyfarnu ei Gwobr Goffa Llew Rees flynyddol i un o chwaraewyr rygbi addawol Cymru.
Dyfarnwyd y wobr i Rhun Williams, 18 oed, o Bontrug ger Caernarfon, gan ei fod wedi gwneud y cyfraniad mwyaf i godi proffil chwaraeon Prifysgol ÌìÌì³Ô¹Ïdrwy ei lwyddiant personol ar lefel ryngwladol.
Mae Rhun, sy'n fyfyriwr blwyddyn gyntaf yn yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer, wedi cael blwyddyn ryfeddol gan fod yn rhan o dîm dan 20 Cymru yn nghystadleuaeth rygbi'r chwe gwlad yn 2016.
Derbyniodd Rhun Ysgoloriaeth Chwaraeon gan Brifysgol ÌìÌì³Ô¹Ïac mae wedi bod yn aelod o Academi Rygbi Gogledd Cymru ers roedd yn 16 oed. Meddai ei hyfforddwr Josh Leach, a gefnogodd ei gais am y wobr hon:
"Mae wedi bod yn bleser ei wylio'n aeddfedu i'r chwaraewr a'r cymeriad a welwn heddiw.
Ers nifer o flynyddoedd bellach cydnabuwyd bod Rhun yn chwaraewr cyffrous ac addawol iawn yn Llwybr Cenedlaethol Undeb Rygbi Cymru i Ddatblygu Chwaraewyr. Roedd yn allweddol i lwyddiant tîm dan 18 Cymru ym Mhencampwriaeth Ryngwladol FIRA, lle dyfarnwyd gwobr Chwaraewr y Twrnamaint iddo.
Yn fwy diweddar fe wnaeth Rhun a thîm dan 20 oed Cymru ddod yn fuddugoliaethus ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad, gan ennill y Gamp Lawn gyntaf erioed i dîm dan 20 Cymru. Nid yn unig fe chwaraeodd Rhun ran allweddol ym mhob un o'r 5 gêm, ond ar sawl achlysur fe wnaeth y sylwebyddion teledu dynnu sylw ato fel "chwaraewr i gadw llygad arno. Rwy'n siŵr bod Rhun yn edyrch ymlaen yn awr at barhau â llwyddiant sgwad dan 20 Cymru eleni wrth iddynt baratoi at gystadleuaeth Cwpan y Byd Dan 20 a gynhelir ym Manceinion yr haf yma."
Meddai Rhun, a oedd wrth ei fodd yn derbyn y wobr: "Dwi'n eithriadol ddiolchgar am yr holl gefnogaeth dwi wedi'i chael o Brifysgol Bangor. Mae derbyn ysgoloriaeth chwaraeon a nawr Wobr Goffa Llew Rees wedi fy ngalluogi i ddatblygu fy ngyrfa rygbi gan ddilyn cwrs prifysgol yr un pryd. Bydd y wobr yn helpu gyda chostau teithio a pharatoadau at y Gwpan y Byd Ieuenctid."
Meddai Richard Bennett, Cyfarwyddwr Chwaraeon ym Mhrifysgol Bangor: "Yn ystod ei flwyddyn gyntaf mae Rhun wedi gwirioneddol godi proffil Prifysgol ÌìÌì³Ô¹Ïdrwy ei ran allweddol yn nhîm dan 20 Cymru ac rydym yn hynod falch y bydd Rhun yn chwarae dros Gymru yn y twrnamaint Cwpan y Byd Dan 20 sy'n dechrau ym Mehefin. Gyda'r twrnamaint yn cael ei gynnal gan RFU, ni fydd raid i ddilynwyr Cymru deithio ymhell i weld gêm agoriadol Cymru yn erbyn Iwerddon a gaiff ei chwarae yn stadiwm Manchester City Academy ar 7 Mehefin."
Yn ddiweddar mae Rhun wedi sicrhau cytundeb datblygu gyda Gleision Caerdydd ar gyfer tymor 2016/17.
Straeon Perthnasol:
Camp lawn i Rhun
Partneriaeth newydd i ddatblygu talent rygbi gogledd Cymru
Myfyriwr Prifysgol ÌìÌì³Ô¹Ïwedi ei ddewis ar gyfer Carfan Rygbi Dan 20 Cymru
Dyfarnu Ysgoloriaethau Chwaraeon i Athletwyr elit Bangor
Dyddiad cyhoeddi: 27 Mai 2016