FFIT Cymru yn 么l am ail gyfres 鈥 a Mared yn arwain y ffordd!
Mae un o gyfresi mwyaf poblogaidd S4C y llynedd, FFIT Cymru, yn 么l ar gyfer ail gyfres ym mis Ebrill a bydd ymwneud Prifysgol 天天吃瓜芒 chynhyrchiad Cwmni Da yn fwy fyth eleni, wedi i un o fyfyrwyr Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd gael ei dewis i fod yn un o 鈥榓rweinwyr鈥 ysbrydoledig y gyfres.Mared F么n Owen
Mae Mared F么n Owen, 20 oed ac yn hanu o Fodedern, yn fyfyrwraig ym mlwyddyn olaf ei gradd yn Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd y Brifysgol a thros gyfnod o saith wythnos, bydd Mared a phedwar arweinydd newydd arall yn mynd ati i drawsnewid eu bywydau drwy golli pwysau a datblygu lefelau newydd o ffitrwydd.
Wrth edrych ymlaen at y gyfres, meddai Mared:
鈥淩wy鈥檔 falch iawn fy mod wedi cael fy nerbyn i fod yn rhan o ail gyfres FFIT Cymru. Mae鈥檔 fraint fy mod i wedi cael fy newis o blith yr holl ymgeiswyr ac, yn sicr, efo鈥檙 holl gefnogaeth rwyf wedi ei derbyn yn barod, does dim amheuaeth na fydda i鈥檔 cyrraedd y nod!鈥
Gan ffurfioli鈥檙 berthynas a ddatblygwyd ar gyfer y gyfres gyntaf y llynedd, mae鈥檙 Brifysgol yn un o 鈥榖artneriaid鈥 y gyfres unwaith eto eleni, gan ymuno 芒 chriw dethol o gyrff a sefydliadau megis Llywodraeth Cymru, Sustrans, Cymdeithas B锚l-droed Cymru, Vitality Parkrun ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae鈥檙 Brifysgol wedi rhannu ei chyfleusterau chwaraeon a鈥檌 harbenigeddau ym maes gwyddorau chwaraeon 芒鈥檙 cynhyrchiad eto eleni.
Cyn dewis y pum arweinydd terfynol, daeth carfan o ymgeiswyr i ganolfan chwaraeon y Brifysgol, Canolfan Brailsford, i gael eu hasesu gan arbenigwyr y gyfres, sy鈥檔 cynnwys y dietegydd, Sioned Quirke, y seicolegydd, Dr Ioan Rees a鈥檙 arbenigydd ffitrwydd, Rae Carpenter 鈥 a鈥檙 cyfan dan lywyddiaeth y cyflwynydd, Lisa Gwilym. Yna, wedi dewis y pum arweinydd, byddwn yn eu gweld yn cael eu hasesu gan Tomos Jones, myfyriwr PhD yn Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer y Brifysgol. Bydd y profion yn cael eu cynnal yn labordai PAWB yr Ysgol, sy鈥檔 cynnwys offer arbenigol ar gyfer mesur iechyd a ffitrwydd. Bydd y profion hyn yn cael eu hailadrodd ar ddiwedd y gyfres er mwyn gweld a yw鈥檙 pum arweinydd wedi llwyddo i drawsnewid eu bywydau am y gorau.
Mae鈥檙 gyfres yn dilyn fformat rhaglen Transformation Nation, sydd bellach ar ei deuddegfed cyfres ar sianel RT脡 yn Iwerddon a bydd FFIT Cymru yn annog gwylwyr i fynd ati i drawsnewid eu bywydau hwythau drwy ddilyn bwydlenni a rhaglenni ffitrwydd arweinwyr y rhaglen.
Wrth drafod y bartneriaeth rhwng y gyfres a Phrifysgol Bangor, meddai comisiynydd rhaglenni S4C, Sioned Wyn Roberts:
"Mae鈥檙 bartneriaeth rhwng S4C, Cwmni Da a Phrifysgol 天天吃瓜yn fuddiol iawn i gyfres FFIT Cymru. Mae鈥檙 Brifysgol yn chwarae r么l ganolog yn y gyfres eto eleni, drwy agor eu drysau i鈥檙 arweinwyr ac i鈥檙 camer芒u i ffilmio yno.
"Un elfen hollbwysig yn siwrne'r pum arweinydd yw鈥檙 profion ffitrwydd manwl sy鈥檔 cael eu cynnal yn Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer Prifysgol 天天吃瓜ar ddechrau ac ar ddiwedd y gyfres, ac mae hyn yn galluogi ni i fesur cynnydd a llwyddiant ein pump yn ystod eu taith FFIT Cymru."
Ac wrth edrych ymlaen at y gyfres newydd, meddai鈥檙 Athro Graham Upton, Is-ganghellor Dros Dro Prifysgol Bangor:
鈥淩ydym yn falch iawn o weithio mewn partneriaeth 芒 chynhyrchiad FFIT Cymru eto eleni a rhannu rhywfaint o arbenigeddau a chyfleusterau arbennig y Brifysgol 鈥 ac, wrth gwrs, rydym yn dymuno鈥檔 dda i Mared wrth iddi arwain eraill i ddilyn ei hesiampl!鈥
Bydd pennod gyntaf cyfres newydd FFIT Cymru yn cael ei darlledu nos Fawrth, 2 Ebrill ar S4C am 8 o鈥檙 gloch. I wybod mwy am y gyfres, ewch i
Dyddiad cyhoeddi: 27 Mawrth 2019