Llwyddo wrth olchi: Sut mae鈥檙 Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn bwriadu atal ynni rhag mynd i lawr y draen.
Dros y 18 mis diwethaf mae鈥檙 Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi gwario hanner miliwn o bunnoedd yng Nghastell Penrhyn ar brosiectau i greu ynni a d诺r poeth cynaliadwy 鈥 ond mae llawer o鈥檙 ynni hwn yn cael ei wastraffu 鈥 yn syml drwy gael ei olchi i lawr y draen.
I atal hyn mae鈥檙 t卯m yng Nghastell Penrhyn, mewn cydweithrediad 芒 Phrifysgol 天天吃瓜a Choleg Trinity Dulyn, yn dechrau ar brosiect adfer gwres newydd, cyffrous i wneud defnydd o鈥檙 d诺r poeth sydd fel arfer yn cael ei wastraffu.
Bydd y prosiect yn defnyddio technoleg adfer gwres i echdynnu gwres o鈥檙 d诺r gwastraff sy鈥檔 llifo allan o geginau anferthol yr eiddo ar dymheredd rhwng 40 a 50 掳C. Bydd y gwres a echdynnir o鈥檙 hylif yn cael ei ddefnyddio i gynhesu鈥檙 d诺r oer sy鈥檔 dod i mewn i鈥檙 gegin.
Os yw鈥檙 dull hwn o ddefnyddio technoleg i adfer gwres yn llwyddo yng Nghastell Penrhyn, bydd yn cael ei gyflwyno yn ystadau eraill yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ledled y DU, gan gefnogi hefyd twf y sector adfer ynni. Gall hyn arbed miliynau o bunnoedd mewn ynni a chostau i鈥檙 sefydliad dros y blynyddoedd nesaf.
Fel yr eglura Keith Jones, Uwch Ymgynghorydd Amgylcheddol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol:
鈥淢ae effeithlonrwydd ynni yn cwmpasu llawer mwy na lleihau defnydd. Mae hefyd yn ymwneud ag ailddefnyddio gwastraff, neu鈥檙 hyn rydym yn ei ystyried ar hyn o bryd fel gwastraff.
Mae鈥檙 Ymddiriedolaeth Genedlaethol a minnau yn tybio bod defnyddwyr ynni eraill, o dai preifat i ysbytai yn gwario llawer o arian ar gynhesu d诺r a hynny am nifer o resymau, i gael cawod boeth neu olchi llestri.
Ond beth rydym yna yn ei wneud gyda鈥檙 adnodd cynnes hwn? Rydym yn ei olchi i lawr y draen a gwneud yr un broses droeon, cynhesu d诺r oer iawn i dd诺r cynnes. Mae hyn yn wastraffus iawn yn nhermau ynni a nod y prosiect hwn yng Nghastell Penrhyn yw atal y cylch hwn o wastraffu ynni.鈥
Mae鈥檙 system a fydd yn cael ei gosod yng yn deillio o gysylltiad yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol 芒 phrosiect , cydweithrediad rhwng Prifysgol 天天吃瓜a Choleg Trinity Dulyn.
Bydd y d诺r a gyflenwir i鈥檙 gegin yn cael ei gynhesu yn rhannol drwy adfer y gwres o鈥檙 d诺r gwastraff. Mae鈥檙 dechneg yn golygu defnyddio d诺r poeth y draeniau, sydd ar ei boethaf yn 50掳C, i ragboethi鈥檙 d诺r prif lif cyn iddo fynd i mewn i system gynhesu (biomas) bresennol y castell. Diolch i鈥檙 broses ragboethi, ni fydd angen cymaint o ynni i gynhesu鈥檙 d诺r poeth, gan arbed ynni, arian a lleihau allyriadau nwyon t欧 gwydr.
鈥淩ydym (Prifysgol Bangor) wedi bod yn gweithio鈥檔 agos 芒鈥檙 Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar sawl prosiect yn y blynyddoedd diweddar, ac mae eu parodrwydd i gydweithio 芒 ni ar brosiect fel hwn yn dyst i hynny. Gobeithio y bydd ein defnydd o dechnoleg adfer ynni yn cefnogi eu nod fel sefydliad gwyrdd a charbon isel,鈥 meddai Dr Prysor Williams, arweinydd prosiect D诺r Uisce yn Ysgol Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth y Brifysgol.
Aeth Dr Williams yn ei flaen i ddweud 鈥淕allai hyn arwain at leihad mawr yn yr ynni a ddefnyddir yng Nghastell Penrhyn, ac o ganlyniad lleihau costau ac 么l-troed carbon yr atyniad twristiaeth hynod brysur hwn.鈥
Mae ymgyrch i fesur llif y d诺r ar y safle eisoes yn mynd rhagddi, diolch i gefnogaeth sawl cwmni d诺r a monitro gwastraff d诺r y DU, gan gynnwys yr arbenigwyr Detectronic sydd wedi cefnogi鈥檙 ymdrechion i fesur llif y d诺r a wastraffir yn y Castell.
Dywedodd Phill Tuxford o Detectronic, 鈥淢ae鈥檔 fraint cael bod yn rhan o brosiect mor arbennig sydd 芒鈥檙 potensial i ddylanwadu ar gwmn茂au d诺r ym mhob man. Mae gweld ein hoffer yn cael ei ddefnyddio i gasglu data mewn ffordd wahanol ac at ddibenion gwahanol y tu allan i鈥檔 cylch gwaith arferol, lle canolbwyntir ar lygredd a llifogydd yn ddiddorol iawn.鈥
Mae鈥檙 system adfer gwres d诺r gwastraff yn cael ei gweithredu yn eiddo鈥檙 Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy ei gysylltiad 芒鈥檙 prosiect D诺r Uisce, cydweithrediad rhwng Prifysgol 天天吃瓜a Choleg Trinity Dulyn yn Iwerddon. Mae鈥檔 rhan o Raglen Cydweithredu Iwerddon Cymru 2014-2020 a gefnogir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Ebrill 2018