ÌìÌì³Ô¹Ï

Fy ngwlad:
Myfyrwyr ÌìÌì³Ô¹Ïyn eistedd ar risiau tu allan i Pontio

Gwybodaeth i Ymchwilwyr Ôl-raddedig Presennol

Mae'r Ysgol Ddoethurol yn gyfrifol am ddarparu'r systemau, polisïau a gweithdrefnau ar gyfer gwella ansawdd, ac i hyrwyddo rhagoriaeth mewn rhaglenni gradd ôl-raddedig ym Mhrifysgol Bangor.

Nod yr Ysgol Ddoethurol yw datblygu a chefnogi cymuned ymchwil ryngddisgyblaethol ac integredig, gydag ymchwilwyr ôl-raddedig yn ganolog iddi. Mae hyrwyddo cyfleoedd cyfartal a chydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith hefyd yn rhan annatod o'n gwaith.

Lles a chefnogaeth Ymchwilwyr Ôl-radd

Gallwch bob amser geisio cefnogaeth gan eich goruchwylwyr a/neu eich tiwtor personol (a fydd yn cael ei nodi ar eich tudalen FyMangor).

Mae’r Gwasanaeth Lles yn rhan o’r Gwasanaeth Cefnogaeth a Lles Myfyrwyr yn y Gwasanaethau Myfyrwyr.

Mae Llesiant Ymchwilydd Cymru (RWC)

Ìý

Mae Llesiant Ymchwilydd Cymru (RWC) yn blatfform digidol mynediad agored sy’n darparu pecyn cymorth o adnoddau i helpu i gefnogi astudiaethau doethurol. Wedi'i greuÌýgydagÌýymchwilwyr doethurol ar gyfer ymchwilwyr doethurol, mae gan RWC dros 130 o adnoddau ar-lein pwrpasol (mae enghreifftiau'n cynnwys gweithio gyda'ch goruchwylwyr, rheoli'ch amser, a chadw'n llawn cymhelliant); storïau myfyrwyr, awgrymiadau a fideos ‘diwrnod ym mywyd’ a blog preswylwyr. I’r rhai sy’n astudio mewn Prifysgolion yng Nghymru mae cyfleoedd i ymuno â grwpiau cymunedol a sesiwn ‘eistedd ac ysgrifennu’ rheolaidd. Gall RWC eich helpu i lywio eich taith ddoethurol, dod yn fwy gwydn a nodi ffyrdd buddiol o weithio.

Mae Llesiant Ymchwilydd CymruÌý

Woman in front of board with sticky notes - room of people- training session

Hyfforddiant a Datblygiad

Mae'r Ysgol Ddoethurol yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd hyfforddi a datblygu i ymchwilwyr ôl-raddedig ag goruchwylwyr.

Mae copi o raglen hyfforddi a datblygu ar gael yn y ddolen isod. Bydd angen i chi gofrestru ar-lein gyda'ch cymwysterau Prifysgol ÌìÌì³Ô¹Ïer mwyn mynychu'r gweithdai. Bydd manylion y lleoliad a sut i fewngofnodi ar gyfer y gweithdai yn cael eu e-bostio yn nes at y dyddiad ar ôl i chi gofrestru.

Mae modd gweld deunyddiau hyfforddi a fideos Panopto ar dudalen Blackboard yr Ysgol Ddoethurol.

Yr Ysgol Ddoethurol, Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd, LL57 2DG.

Cysylltwch â ni

Yr Ysgol Ddoethurol, Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd, LL57 2DG.