Hwb Datgarboneiddio Arloesol yn agor ym Mhenygroes – y cyntaf o’i fath yn y Deyrnas Unedig
Mae hwb datgarboneiddio sy’n torri tir newydd yng ngogledd orllewin Cymru – y cyntaf o’i fath yn y Deyrnas Unedig – wedi cyrraedd carreg filltir arbennig yn ei hanes.
Heddiw (dydd Gwener, 15 Tachwedd), agorodd Ken Skates AS, Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Drafnidiaeth a gogledd Cymru, Tŷ Gwyrddfai ym Mhenygroes yn swyddogol, sef prosiect cydweithredol rhwng Adra, Grŵp Llandrillo Menai a Phrifysgol Bangor.
Mae'r hen ffatri cynhyrchion hylendid wedi ei thrawsnewid dros y ddwy flynedd ddiwethaf i fod yn hwb datgarboneiddio a fydd yn sicrhau bod gogledd orllewin Cymru yn flaenllaw ar yr agenda datgarboneiddio, gan weithio gyda chymunedau a busnesau i ôl-osod cartrefi dros y blynyddoedd nesaf.
Yn ystod yr ymweliad, edrychodd Mr Skates ar yr ychwanegiad diweddaraf yn Nhŷ Gwyrddfai - cyfleuster ymchwil a datblygu arloesol ar gyfer profi a threialu technoleg a deunyddiau newydd sy’n cyd-fynd â’r agenda datgarboneiddio. Mae gan y cyfleuster hwn ddwy siambr sydd wedi'u cynllunio i fod fel tu mewn a'r tu allan i dŷ ar gyfer profi hinsawdd. Arweinir y cyfleuster hwn gan Brifysgol Թac mae wedi’i ariannu gan Lywodraeth y DU drwy’r Gronfa Ffyniant Cyffredin.
Mae Tŷ Gwyrddfai yn gartref i brif swyddfa Trwsio, contractwr mewnol Adra sy’n cyflogi dros 150 o staff. Mae Travis Perkins hefyd wedi sefydlu depo ar y safle i ddarparu deunyddiau a chyflenwadau i Adra a'i gontractwyr.
Mae Busnes@LlandrilloMenai, ochr masnachol Grŵp Llandrillo Menai yn rheoli podiau hyfforddi ar y safle gan gyflwyno sgiliau datgarboneiddio ac adeiladu wedi'u teilwra i bobl ifanc ac aelodau presennol y gweithlu adeiladu, yn enwedig mewn meysydd fel inswleiddio waliau allanol, gosod a gwasanaethu paneli solar, pympiau gwres ffynhonnell aer a storfeydd batris.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: “Mae’n wych bod yma heddiw i agor Tŷ Gwyrddfai yn swyddogol. Mae’n arbennig o briodol dathlu’r hwb datgarboneiddio hwn sy’n torri tir newydd yn ystod Wythnos Hinsawdd Cymru.
“Mae’r safle hwn yn cyflawni ar gynifer o lefelau, gan ddod o hyd i ffyrdd o ddatgarboneiddio cartrefi, darparu sgiliau a hyfforddiant hanfodol ym maes datgarboneiddio, a chymaint mwy. Mae’n dda gweld sut y mae wedi dod â phartneriaid allweddol yn y rhanbarth ynghyd ac rwy’n falch o weld canlyniadau cadarnhaol cefnogaeth Llywodraeth Cymru yn y cyfleuster rhagorol hwn.”
Dywedodd Iwan Trefor Jones, Prif Weithredwr Adra: “Mae hwn yn ddiwrnod pwysig i Dŷ Gwyrddfai, sef yr hwb cyntaf o’i fath yn y Deyrnas Unedig, ac sydd wedi bod yn bosib drwy’r bartneriaeth wych rhwng Adra, Prifysgol Թa Grŵp Llandrillo Menai.
“Mae’r bartneriaeth a’r ddarpariaeth hon yn wirioneddol unigryw drwy ddod â’r sector tai, Addysg Bellach ac Addysg Uwch ynghyd – oll gyda’r nod uchelgeisiol o ymateb i anghenion yr economi ranbarthol o ran cyrraedd targedau sero net.
“Rydym hefyd wedi bod yn ffodus iawn i ddenu cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig, yn ogystal â chefnogaeth cwmnïau blaenllaw yn y sector a wnaeth gydnabod yn gynnar y potensial ar gyfer Tŷ Gwyrddfai fel hwb yng ngogledd orllewin Cymru.
"Bydd y datblygiad yn arwain at weithlu mwy cymwys gyda mwy o sgiliau a bydd hefyd yn cyfrannu at leihau allyriadau carbon yn ein cartrefi, a fydd yn ei dro yn lleihau effaith costau tanwydd ac ynni cynyddol trwy wneud ein cartrefi yn fwy ynni-effeithlon a gwella ansawdd bywyd ein tenantiaid".
Dywedodd Aled Jones-Griffith, , Prif Weithredwr, Grŵp Llandrillo Menai: “Mae Busnes@LlandrilloMenai yn falch o fod yn rhan o’r prosiect arloesol hwn. Tŷ Gwyrddfai yw'r cyntaf o'i fath yn y Deyrnas Unedig i ddarparu cymorth sgiliau ac arloesi ond mae hefyd yn cynrychioli dull arloesol o weithio lle mae diwydiant a darparwyr yn cydweithio. Y canlyniad yw ein bod yn ymateb gyda'n gilydd yn uniongyrchol i anghenion economi gogledd Cymru a thu hwnt.
“Trwy gydweithio’n agos ag arweinwyr diwydiant a phartneriaid academaidd, mae’r bartneriaeth hon yn meithrin arloesedd sydd nid yn unig yn hyrwyddo’r agenda datgarboneiddio, ond sydd hefyd yn rhoi’r sgiliau, y wybodaeth a’r gallu i’n dysgwyr a’n busnesau i ysgogi newid cadarnhaol yn eu cymunedau”.
Ychwanegodd yr Athro Edmund Burke, Is-ganghellor Prifysgol Bangor: “Mae Prifysgol Թyn falch o fod yn bartner ym mhrosiect Tŷ Gwyrddfai, gan ail-ddatgan ein hymrwymiad i arloesi cynaliadwy a chefnogi taith Cymru tuag at ddatgarboneiddio.
“Drwy weithio'n agos gyda diwydiant, bydd y cyfleuster hwn yn datblygu ymchwil i sut mae newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar y sector adeiladu wrth gryfhau ein partneriaethau â busnesau a chymunedau lleol.
“Gyda’n gilydd, rydym yn gosod Gogledd Cymru ar flaen y gad yn y trawsnewid gwyrdd.”
Ymunodd disgyblion o Ysgol Bro Lleu, Penygroes ac Ysgol Bro Hedd Wyn, Trawsfynydd yn y dathliadau a darllenodd y bardd lleol Meirion MacIntyre Huws, enillydd yn yr Eisteddfod genedlaethol, gerdd a ysgrifennodd am Dŷ Gwyrddfai yn arbennig ar gyfer y digwyddiad.