Yn ystod cyfarfod cyntaf defnyddwyr Core Imaging Library (CIL), a drefnwyd gan CCPi (The Collaborative Computational Project in Tomographic Imaging), dyfarnwyd Gwobr Effaith y Computational Science Centre for Research Communities (CoSeC) 2023 i Iwan Mitchell o Brifysgol 天天吃瓜am ei waith arloesol ym maes cyfrifiadura gwyddonol. Fframwaith cod agored Python yw CIL ar gyfer delweddu tomograffig gyda phwyslais arbennig ar ail-greu setiau data heriol. Roedd y seremoni wobrwyo, a arweiniwyd gan Dr Barbara Montanari, sef Cyfarwyddwr CoSeC, yn rhan o ddiwrnod a neilltuwyd i rannu mewnwelediadau a datblygiadau yn y maes delweddu cyfrifiannol. Yn ddiweddarach yr un diwrnod, cafodd Iwan gyfle i gyflwyno ei waith, 鈥淐reating Functional Digital Shadows of X-ray Systems鈥, i鈥檙 gynulleidfa. Yn y sgwrs esboniodd gymhlethdodau Tomograffeg Gyfrifiadurol Pelydr-X (XCT).
Mae Iwan Mitchell yn astudio ar gyfer ei PhD ym Mhrifysgol Bangor, ac mae鈥檔 cael ei ariannu gan yr UKRI Centre for Doctoral Training in . Mae ymchwil Mitchell yn canolbwyntio ar ddatblygu algorithmau a systemau cyfrifiadurol arloesol mewn tomograffeg gyfrifiadurol pelydr-X (XCT) ac mae wedi bod yn ymchwilio i dechnegau cysgodi ar gyfer XCT, gyda'r nod o ail-greu sganwyr pelydr-X yn rhithiol, gan gynnwys eu hymddygiad a'u diffygion. Mae ei waith yn hanfodol i oresgyn yr heriau a gyflwynir gan ddulliau efelychu pelydr-X cyfrifiadurol traddodiadol, sy'n cymryd llawer o amser ac sy'n aml yn gofyn am feddalwedd ddrud. Aeth ati i greu WebCT, sef meddalwedd porwr gwe hawdd ei defnyddio sy鈥檔 efelychu ac ail-greu pelydr-X ac sy鈥檔 darparu rhyngwyneb mwy hygyrch i ymchwilwyr, gan leihau'r rhwystrau i fynediad i faes profion annistrywiol pelydr-X (NDT).
Mae effaith ymchwil Mitchell yn ymestyn y tu hwnt i hyfforddiant a chwestiynau dichonoldeb. Trwy gynhyrchu Efeilliaid Digidol o sganwyr XCT diwydiannol, mae wedi agor y porth ar gyfer rhaglenni Dysgu Peirianyddol wrth optimeiddio dylunio gweithgynhyrchu. Mae Gefeilliaid Digidol, ynghyd 芒 llyfrgell feddalwedd gVirtualXRay (gVXR) a CIL y CCPi, yn galluogi creu setiau data tomograffig mewn eiliadau, gan hwyluso hyfforddiant modelau Dysgu Peirianyddol ar gyfer canfod diffygion ac optimeiddio gweithgynhyrchu.
Dywedodd Dr Franck Vidal (cyn Ddarllenydd ym Mhrifysgol 天天吃瓜a Gwyddonydd yn y Science and Technology Facilities Council), gan gydnabod cyflawniad Mitchell,
Mae ymroddiad Iwan a鈥檙 hyn y mae wedi鈥檌 gyflawni yn enghraifft o ysbryd Gwobr Effaith CoSeC. Mae ei waith nid yn unig yn gwthio ffiniau cyfrifiadura gwyddonol ond hefyd yn llawn addewid aruthrol ar gyfer dyfodol delweddu pelydr-X. Hoffem longyfarch Iwan am yr anrhydedd haeddiannol hon ac edrychwn ymlaen at weld effaith barhaus ei gyfraniadau yn y gymuned wyddonol.