Beth sy鈥檔 digwydd ar 么l imi wneud cais trwy UCAS?
Unwaith y byddwch wedi gwneud cais, bydd UCAS yn anfon eich cais ymlaen atom. Byddwch yn cael gwybod pan fyddwn wedi derbyn eich cais a byddwn yn penderfynu a allwn gynnig lle i chi ai peidio. Mae rhagor o wybodaeth am yr hyn sy'n digwydd ar 么l i chi wneud cais drwy UCAS ar gael ar .
Ar 么l cyflwyno'ch cais UCAS mae'n bwysig eich bod yn gwirio eich UCAS Hub yn rheolaidd. Dyma lle byddwch yn cael gwybod am ein penderfyniad ynghylch cynnig lle i chi i astudio ym Mhrifysgol Bangor.
Os byddwn yn gwneud cynnig i chi astudio yma, byddwn yn anfon gwybodaeth a chyfarwyddiadau perthnasol atoch yn syth i'r cyfeiriad e-bost a roddwyd gennych ar eich ffurflen gais UCAS - felly gwiriwch eich mewnflwch yn rheolaidd a rhowch wybod i UCAS am unrhyw newidiadau yn eich cyfeiriad e-bost.
Os cewch gynnig le ym Mangor, cewch gynnig Amodol neu Ddi-amod.
Mae Di-amod yn golygu eich bod eisoes wedi ateb y meini prawf y mae鈥檙 Brifysgol yn gofyn amdanynt.
Mae Amodol yn golygu y bydd yn rhaid ichi gyrraedd y safon a bennir ganddi - fel rheol, trwy ennill rhai graddfeydd penodol yn eich arholiadau.
Os ydym ni wedi cynnig lle i chi astudio yma, fe'ch gwahoddir i fynychu Diwrnod y Ymgeiswyr. Hyd yn oed os rydych wedi bod i Ddiwrnod Agored yma, byddwch yn elwa o ddod i Ddiwrnod i Ymgeiswyr gan bydd yn rhoi profiad gwahanol sydd wedi ei deilwro i chi. Byddwch yn cael cyfle i fynychu sesiwn blasu a chael mwy o fanylion am eich pwnc dewisol.
Unwaith y bydd yr holl brifysgolion yr ydych wedi gwneud cais iddynt wedi gwneud eu penderfyniadau, bydd UCAS yn cysylltu 芒 chi gyda dyddiad cau ar gyfer eich atebion. Rhaid i chi nodi Dewis Pendant a Dewis Wrth Gefn, a Gwrthod yr holl gynigion eraill. Dylech wirio'r adran 'Your choices' o'ch cais ar wefan UCAS a nodi eich penderfyniadau yno. Fel rheol, cewch tua pedair wythnos i ystyried eich cynigion a gwneud eich penderfyniad.
Beth yw Dewis Pendant?
Dylai eich Dewis Pendant o brifysgol fod yr un yr ydych fwyaf awyddus i fynd iddi. Wrth wneud hon yn Ddewis Pendant, rydych yn dweud eich bod yn cytuno i astudio yno, cyhyd 芒鈥檆h bod yn cydymffurfio ag amodau eich cynnig.
Beth yw ystyr Dewis Wrth Gefn?
Eich prifysgol wrth gefn yw hon, felly, os na chewch y graddfeydd sydd eu hangen ar gyfer eich dewis cyntaf, yna, gyda lwc, byddwch wedi cyrraedd y safon sy鈥檔 ofynnol ar gyfer y Dewis Wrth Gefn. Pan fyddwch yn penderfynu yngl欧n 芒 Dewis Wrth Gefn, mae鈥檔 syniad da sicrhau eich bod yn ffyddiog y gellwch ateb y meini prawf hynny. Peidiwch 芒 dewis prifysgol sydd wedi pennu amodau tebyg i鈥檆h Dewis Pendant.
Mae cymorth ar gael i helpu gyda costau astudio ar gyfer gradd israddedig - bydd yr union gymorth ariannol sydd ar gael i chi yn dibynnu ar ba ran o'r DU rydych chi'n byw.
Mwy am Cyllid Myfyrwyr Israddedig
Rydym yn cynnig amryw o ysgoloriaethau a bwrsariaethau i fyfyrwyr newydd.
Rydym yn rhoi sicrwydd o ystafell mewn llety Prifysgol i ymgeiswyr israddedig newydd sydd:
- yn gwneud cais ar gyfer cwrs llawn-amser sy'n dechrau fis Medi
- yn gwneud cais ar gyfer cwrs sydd wedi ei leoli yn ein campws ym Mangor
- yn dewis 天天吃瓜fel eu dewis Cadarn
- yn gwneud cais am le mewn neuadd erbyn 31 Gorffennaf.
Sylwch, mae ein llety i israddedigion yn bennaf yn ystafelloedd i un, yn rhai en-suite a chyda chyfleusterau hunanarlwyo. Os gwnewch gais am le mewn neuadd cyn y dyddiad cau, sef 31 Gorffennaf, byddwch yn gallu dewis pa ystafell fyddai orau gennych.
Bydd UCAS yn cadarnhau eich lle i astudio yma. Ar gyfer mynediad mis Medi, byddwn yn anfon e-bost atoch ym mis Awst gyda gwybodaeth am y broses gofrestru myfyrwyr, trefniadau cyrraedd a'r wythnos groeso.