Ym Mhrifysgol Bangor, mae pum thema allweddol sy'n nodweddu ein graddedigion ac yn rhoi mantais iddynt. Dyma Nodweddion Graddedigion Bangor:
Her

Rydych yn gadarn yn wyneb heriau. Rydych yn gweld problemau fel cyfleoedd i ddatblygu a dysgu mwy. Mae gennych amrywiaeth o sgiliau sy'n eich helpu i ymdopi pan fyddwch mewn sefyllfa anghyfarwydd. Rydych hefyd yn barod i herio disgwyliadau a safonau pan fo angen.
- Hyblygrwydd
- Trafod
- Gwytnwch
- Datrys problemau
- Rheoli cymlethdoadau
- Hyder
- Herio normiau
- Gweithio dan bwysau
- Gwneud yr anghyfarwydd
- Cymhelliant
- Dycnwch
Yn ystod eich amser ym Mhrifysgol Bangor, efallai y byddwch chi'n herio'ch hun i ddatblygu'r nodwedd hon trwy ymgymryd 芒鈥檙 pethau sy'n fwy anodd i chi. Cewch aseiniadau amrywiol, er enghraifft, wedi'u cynllunio i'ch helpu i ddatblygu a defnyddio'r sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt. Efallai bod rhai o'r rhain yn bethau rydych chi'n llai cyfarwydd 芒 nhw, a byddwn yn eich cefnogi wrth i chi ddysgu sgiliau newydd ac ymgymryd 芒 heriau newydd. Gwyddom fod pobl yn gweld pethau gwahanol yn heriol, felly mae Prifysgol 天天吃瓜yn cynnig ystod eang o wasanaethau cymorth sy鈥檔 rhoi arweiniad ar gyfer eich bywyd academaidd yn ogystal 芒 materion ehangach fel cyflogadwyedd a gyrfaoedd, cyllid a llety, a鈥檆h lles.
Ymroddiad

Mae gennych amrywiaeth o sgiliau y gallwch eu cymhwyso i amgylchiadau amrywiol. Rydych yn adnabod eich pwnc yn dda ac mae gennych enghreifftiau o sut rydych chi鈥檔 defnyddio eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth yn y byd go iawn.
- Llythrennedd digidol
- Creadigrwydd
- Cyflwyno ar lafar
- Cyflwyno'n ysgrifenedig
- Mentergarwch
- Gwneud penderfyniadau
- Sgiliau trosglwyddadwy
- Profiad byd go iawn
- Gwerthfawrogi syniadau
Mae'r hyn rydych chi'n ei ddysgu ar eich cwrs wedi'i gynllunio i fod yn ddefnyddiol yn eich gwaith yn y dyfodol. Cewch gyfleoedd i ddefnyddio'r agweddau damcaniaethol a'r wybodaeth o'ch cyrsiau mewn sefyllfaoedd ymarferol a all gynnwys gweithgareddau yn y dosbarth, profiadau rhithwir, tasgau ymchwil, neu gyfleoedd i fynd ar leoliad gwaith. Mae鈥檙 priodoli hwn i鈥檙 byd ymarferol hefyd yn ymwneud 芒'r ymroddiad a ddangoswch wrth ennill eich gradd. Bydd angen ichi ymrwymo a chanolbwyntio ar eich astudiaethau. Byddwch yn ymroi i geisio meithrin gwybodaeth a sgiliau. Bydd eich cwrs yn eich helpu i ddeall sut i reoli鈥檆h amser a strwythuro鈥檆h gwaith i gyflawni eich nodau yn effeithiol.
Ymholiad

Rydych yn chwilfrydig ac yn fodlon ystyried gwahanol syniadau a safbwyntiau. Gallwch rannu ac amddiffyn eich barn ar sail tystiolaeth gadarn. Rydych yn gwybod sut i ganfod yr wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau yn eich maes. Rydych yn ymwybodol o'r prif heriau yn eich maes ac yn awyddus chwilio am atebion posib.
- Dadansoddi beirniadol
- Archwilio
- Chwilfrydedd
- Effeithiolrwydd darllen
- Cymhwyso'r pwnc
- Ymwybyddiaeth fyd-eang
- Atgynhyrchu gwybodaeth
- Dysgu
- Cynaliadwyedd
- Sgiliau ymchwil
- Gweledigaeth
Un o agweddau mwyaf cyffrous unrhyw radd yw darganfod yr elfennau cwbl gyfareddol am eich dewis bwnc. Drwy eich astudiaethau byddwch yn dysgu am y canfyddiadau diweddaraf, ac am wybodaeth newydd gan ymchwilwyr mwyaf blaenllaw鈥檙 byd. Bydd sawl maes yn mynd 芒鈥檆h bryd ond dim ond dechrau'r hyn y gallech ei archwilio yw eich darlithoedd. Bydd eich cwrs yn eich dysgu sut i ddarganfod mwy. Byddwch yn dysgu sut i ddod o hyd i wybodaeth ddibynadwy; sut i adnabod bylchau yn yr wybodaeth honno; a sut i fynd ati i lunio'r cwestiynau nesaf a gyfyd o鈥檙 ymchwil, a sut i'w hateb hefyd!
Hunangyfeiriad

Rydych yn gwybod sut i reoli eich gwaith eich hun yn effeithiol. Gallwch ddefnyddio鈥檆h crebwyll eich hun i ddirnad beth sydd angen ei wneud a sut i gyflawni hynny. Gallwch asesu eich anghenion datblygiadol eich hun ac rydych yn gwybod sut i ddysgu fel y gallwch barhau i ddatblygu yn eich gyrfa.
- Trefnu
- Cynllunio
- Hunan-ymwybyddiaeth
- Uchelgais
- Annibyniaeth
- Adlewyrchol
- Blaenoriaethu
- Cymhelliant
- Hunan-ddisgyblaeth
- Defnyddio adnoddau
- Hunan effeithiolrwydd
Bydd eich astudiaethau yn sicrhau bod gennych yr holl sgiliau a fydd yn eich gwneud yn weithiwr gwerthfawr. Mae llawer o'r medrau hyn yn gofyn am yr hyder i weithio'n annibynnol ac o鈥檆h pen a鈥檆h pastwn eich hun. Wrth i chi gwblhau eich gradd ym Mangor, byddwch yn ennill y sgiliau sydd eu hangen i sicrhau y gallwch gynllunio'ch gwaith a'i gyflwyno'n effeithiol. Cewch gyfleoedd di-ri i ddysgu sut i gymryd yr awenau o ran canfod atebion, rheoli projectau, ac adnabod eich anghenion datblygiadol fel y gallwch siapio datblygiad eich gyrfa trwy gydol a thu hwnt i'ch rhaglen radd.
Cydweithio

Rydych yn gweithio'n effeithiol ag eraill. Gallwch feithrin perthynas gadarnhaol gyda phobl mewn gwahanol swyddi. Rydych yn deall yr hyn y gallwch ei gyfrannu at d卯m a sut i gydweithio i sicrhau'r canlyniadau gorau.
- Rheoli
- Cyd-drafod
- Dylanwadu
- Rhwydweithio
- Gwaith t卯m
- Mentora
- Meithrin perthynas
- Gwaith project
- Cymell eraill
Mae astudio ym Mangor wedi bod yn ddechrau cyfeillgarwch gydol oes i lawer o鈥檔 myfyrwyr. Yn ystod eich amser gyda ni, cewch ddigon o gyfleoedd i adeiladu'r rhwydweithiau a fydd yn eich cefnogi i ddatblygu鈥檆h gyrfa yn y dyfodol. Mae gwneud hynny'n dibynnu ar ddatblygu sgiliau cydweithio rhagorol. Drwy gydol eich astudiaethau, cewch eich cefnogi i ddatblygu sgiliau gwaith t卯m ac i weithio鈥檔 hyblyg wrth ysgwyddo swyddogaethau mewn t卯m. Byddwch yn gallu datblygu sgiliau arwain effeithiol; dysgu trafod a datrys y materion a all godi mewn projectau cydweithredol; a byddwch yn hyderus yn y priodoleddau unigryw y byddwch yn eu cyflwyno i unrhyw d卯m.