Cronfa ÌìÌì³Ô¹Ïyn darparu modelau anatomegol i fyfyrwyr Ysgol y Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol
Mae grant gan Gronfa Bangor, sy’n seiliedig ar roddion gan gyn-fyfyrwyr ac a weinyddir gan y Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr, wedi galluogi Ysgol y Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol i brynu casgliad o fodelau anatomegol. Mae'r modelau hynod gywir hyn yn cynnwys seren fôr, cimwch yr afon a detholiad o wyth ymennydd fertebratau bellach yn gwella’r dysgu ym mhob un o'r saith rhaglen sŵoleg.
Myfyrwyr trydedd flwyddyn ar y modiwl Ffisioleg Pysgod oedd y cyntaf i elwa o'r adnodd newydd hwn. Defnyddiodd y myfyrwyr y modelau i ddadansoddi morffoleg ymennydd brithyll seithliw, morgi a llysywen. Daeth yn amlwg bod y modelau yn gydymaith delfrydol yn y pum sesiwn ymarferol yn cymharu anatomeg niwral a mynegiant hormonau fertebratau.
Defnyddir y modelau infertebratau hefyd yn y modiwlau Sŵoleg Infertebratau a Sŵoleg Integredig yn y gwanwyn. Mae'r modelau gwydn a dyranadwy hyn yn ddelfrydol i astudio anatomeg gymharol tra'n cefnogi ymrwymiad yr ysgol i hanfodion ymchwil gydag anifeiliaid - lleihau, disodli a mireinio.
Wrth i ddull dysgu modern yr ysgol ddatblygu gyda'i chwricwlwm newydd, rhagwelir y bydd y casgliad modelau anatomegol yn ehangu ymhellach.
Ìý
Diolch i’n cyn- fyfyrwyr hael, gallwn wella profiad y myfyrwyr a’u dealltwriaeth o anatomeg anifeiliaid trwy ddefnyddio’r modelau gwyddonol hynod gywir hyn. Trwy gefnogaeth ein cymwynaswyr a brwdfrydedd ein myfyrwyr, rydym yn gwella ein hadnoddau yn barhaus ac yn cynyddu hygyrchedd a chynwysoldeb i’r holl fyfyrwyr.
ÌýDr Jo Hoppes (Darlithydd Sŵoleg)Ìý