Prifysgol 天天吃瓜yn cyfrannu at ymchwil fyd-eang i COVID-19
Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol 天天吃瓜wedi ymuno 芒'r frwydr fyd-eang yn erbyn y pandemig COVID-19.
Bydd gr诺p o academyddion blaenllaw yn rhannu eu harbenigedd i ddatblygu ffyrdd newydd o fonitro'n dorfol lefelau SARS-Cov-2, y firws sy'n achosi'r afiechyd a elwir yn COVID-19.
Eglurodd yr Athro Davey Jones o'r Ysgol Gwyddorau Naturiol, un o arweinwyr y project:
鈥淏yddai amcangyfrif cywir o faint o'r haint sy鈥檔 cylchredeg yn y gymuned gyfan yn wybodaeth werthfawr i鈥檙 rhai sy鈥檔 gyfrifol am gynllunio ar gyfer lledaeniad yr haint a鈥檌 reoli. Er bod y nifer o gleifion sydd yn yr ysbytai 芒 COVID-19 yn cynnig rhyw fath o ffon fesur o鈥檙 nifer o achosion o鈥檙 clefyd yn y boblogaeth, nid yw'n darparu unrhyw wybodaeth ddibynadwy am heintiau ysgafn a chludwyr nad ydynt yn dangos unrhyw symptomau."
Mae 'hapwiriadau' a chamer芒u delweddu thermol wedi cael eu cyflwyno i sgrinio am heintiau, ond maent yn gostus eu gweithredu ac yn bell o fod yn fanwl gywir. Mae angen dulliau gwell o werthuso cyffredinolrwydd SARS-CoV-2 yn y boblogaeth ehangach.
Gan fod swm helaeth o firws SARS-CoV-2 yn cael ei garthu mewn baw dynol, mae gr诺p ymchwil Prifysgol 天天吃瓜yn bwriadu rhoi prawf ar dd诺r gwastraff fel mynegydd grymus o ddigwyddedd yr afiechyd ar unrhyw adeg. Mae hyn yn arbennig o addas gan mai dim ond un neu ddwy ganolfan trin d诺r gwastraff sy'n gwasanaethu'r rhan fwyaf o ganolfannau trefol y Deyrnas Unedig, gan gynnig un signal integredig o filiynau o bobl mewn un sampl.
Dyrannwyd cyllid 'Brys' i'r project yng Ngholeg Gwyddorau Amgylcheddol a Pheirianneg y Brifysgol gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol a bydd yn cyflawni sawl nod trwy ddefnyddio d诺r gwastraff i roi gwybodaeth ymron iawn mewn amser real ar ddigwyddedd SARS-CoV-2 ym mhoblogaeth y Deyrnas Unedig.
Esboniodd yr Athro Dave Chadwick, cyd-arweinydd yn Ysgol y Gwyddorau Naturiol ymhellach:
鈥淕ellir cymharu monitro d诺r gwastraff am gynnydd a gostyngiad dilynol SARS-CoV-2 mewn amser real yn y Deyrnas Unedig 芒 metrigau confensiynol o adrodd am afiechydon megis y nifer o achosion presennol o gleifion ysbyty sydd 芒 COVID-19. Bydd yn galluogi gwyddonwyr i nodi unrhyw achosion o debygrwydd o ran helaethrwydd presenoldeb SARS-CoV-2 ym mhrif ganolfannau trefol y Deyrnas Unedig. 鈥
Eglurodd Dr Shelagh Malham, sydd hefyd yn un o gyd-arweinyddion yr ymchwil yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion:
鈥淵n y tymor hwy, rydym yn gobeithio dangos sut y gellir defnyddio d诺r gwastraff i oruchwylio firysau sy'n achosi afiechyd dynol yn y boblogaeth ddynol mewn modd integredig a darparu gwybodaeth wyddonol hanfodol i gyrff fel y llywodraeth genedlaethol, y GIG, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Lloegr a chwmn茂au d诺r, er mwyn iddynt allu gwneud penderfyniadau gwybodus ar reoli heintiau ac ymateb ac addasu i epidemigau posibl yn y dyfodol.鈥
Dywedodd yr Athro David Thomas, Dirprwy Is-Ganghellor, Ymchwil:
鈥淓r bod y brifysgol yn anochel wedi gorfod dal yn 么l gyda llawer o鈥檌 phrojectau ymchwil presennol, mae鈥檔 amlwg, oherwydd pwysigrwydd cenedlaethol yr ymchwil hon, bod yn rhaid bwrw ymlaen 芒鈥檙 gwaith.鈥