Ymunwch â ni am ddigwyddiad craff a sefydlir gan yr Athro Morag McDonald, Amrywiaeth a Chynhwysiant Diprwy Is-Ganghellor ,Ìý yr Is-ganghellor a Phrifathro Prifysgol Genedlaethol Khmelnytskyi yn Wcráin, yr Athro Serhii Matiukh.Ìý
Ìý
Bydd y rhaglen yn cynnwys:Ìý
-
Cyflwyniad gan yr Athro Kateryna Skyba, Is-brifathro dros Waith Gwyddonol ac Addysgegol ym Mhrifysgol Genedlaethol Khmelnytskyi (Higher Education Leadership in the Time of War: The Ukrainian Case).Ìý
-
Cyflwyniad gan yr Athro Christian Dunn, a fydd yn rhannu mewnwelediadau o'i daith ddiweddar i Wcráin.Ìý
-
Bydd Oliver Turnbull yn dadorchuddio portread o Charlotte Price White, ac yna ceir cyflwyniad gan Shan Robinson (Archifdy Prifysgol ÌìÌì³Ô¹Ïac Archif Menywod Cymru). Ìý
Roedd Charlotte Price White yn ffigwr arwyddocaol ym mudiad Swffragetiaid Gogledd Cymru a chwaraeodd ran hollbwysig wrth eirioli dros heddwch. Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, daeth yn ffigwr canolog yng nghangen Gogledd Cymru o Gynghrair Ryngwladol y Merched dros Heddwch a Rhyddid. Hi hefyd oedd y trefnydd sir ar gyfer Deiseb Heddwch y Merched Undeb Cynghrair y Cenhedloedd Cymru i America yn 1923-1924.Ìý
Nod Deiseb Heddwch y Merched oedd hyrwyddo heddwch ac atal gwrthdaro yn y dyfodol drwy gasglu llofnodion gan ferched ledled Cymru a’u cyflwyno i’r Unol Daleithiau. Roedd y fenter hon yn rhan o fudiad ehangach i annog diarfogi a chydweithredu rhyngwladol.Ìý
Gadawodd ymroddiad Charlotte i heddwch, a'i harweinyddiaeth yn yr ymdrechion hynny, effaith barhaol ar y gymuned a'r mudiad heddwch ehangach.Ìý
-
Cyflwyniad gan Rhian James a Bethan Rees o Lyfrgell Genedlaethol Cymru am Ddeiseb Heddwch Menywod Cymru.Ìý
Ìý
Bydd lluniaeth, gan gynnwys cynnyrch o Wcráin a Chymru, yn cael ei gweini ar ôl y digwyddiad.Ìý
Peidiwch â cholli'r cyfle hwn i ymgysylltu ag arweinwyr mewn addysg uwch a dysgu am eu profiadau a'u mewnwelediadau yn ystod cyfnodau heriol.Ìý
Ìý
ÌýÌý
Ìý Ìý ÌýÌý
Ariennir y digwyddiad hwn gan Wobr Partneriaeth Rhywedd a ddyfarnwyd i Brifysgol ÌìÌì³Ô¹Ïa Phrifysgol Genedlaethol Khmelnytskyi gan y Cyngor Prydeinig.ÌýÌý