From a Childhood Fascination of Electronic Circuits to Worldwide Treatment of Cancer
Darlith agored gan yr Athro Chris Hancock
Ymunwch â ni i fynd i’r afael â dyfodol arloesedd electrolawfeddygol, lle mae technoleg flaengar yn trawsnewid triniaeth canser ac yn gwella canlyniadau cleifion ledled y byd
Mae’r sgwrs yn rhan o Ymgysylltu — darlithoedd ym meysydd peirianneg, cyfrifiadura a dylunioÌý
Ìý
Croeso i bawb.
Ìý
Cyfres o ddarlithoedd am amrywiol bynciau sy’n ymwneud â chyfrifiadura, peirianneg a dylunio, a drefnir gan Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Prifysgol ÌìÌì³Ô¹Ïyw’r Seminarau ‘Ymgysylltu’.
Mae’r sgwrs hon yn archwilio taith o chwilfrydedd plentyndod mewn electroneg ac adeiladu cylchedau electronig sylfaenol i frwdfrydedd dros gymhwyso’r technegau hyn mewn arloesedd meddygol. Bydd canolbwynt allweddol y sgwrs yn esbonio llwyfan electrolawfeddygol newydd sy'n cyfuno ynni microdon amledd uchel ac ynni amleddau radio amledd is ar gyfer triniaeth fanwl gywir o sawl cyflwr sydd wedi'u lleoli yn y bibell gastroberfeddol. Mae'r dechnoleg hon yn galluogi dyrannu meinwe dan reolaeth a cheulo wedi'i dargedu, gan ddefnyddio dodwyr hyblyg, bach. Mae un ddyfais eisoes wedi trin dros 6000 o gleifion, wedi newid y llwybr triniaeth ar gyfer canser y colon yn ei gyfnod cynnar, ac mae bellach yn arbed hyd at £10K y driniaeth i'r GIG.
Bydd y sgwrs hefyd yn tynnu sylw at ddyfeisiau hyblyg arloesol sy'n darparu ynni microdon â ffocws i feinwe canseraidd, gan gynnig dewis arall llai mewnwthiol yn lle cemotherapi a radiotherapi. Mae enghreifftiau’n cynnwys offeryn hyblyg llai na 2mm ar gyfer nodiwlau ysgyfaint, a ddefnyddiwyd mewn astudiaeth glinigol gyda dros 20 o gleifion wedi’u trin hyd yma, ynghyd â phedwar patent a gafodd eu trin y tu allan i’r astudiaeth, a nodwydd nitinol llai na 1mm (aloi titaniwm nicel sy’n adnabyddus am ei uwchelastigedd a’i gallu i gofio siâp) a gynlluniwyd ar gyfer tiwmorau pancreatig, yr iau ac arennau, sydd wedi helpu i drawsnewid bywydau cleifion o bob rhan o’r byd.
Mae’r Athro Chris Hancock wedi bod yn angerddol am electroneg ers ei blentyndod, gan ei arwain at brentisiaeth yn Thorn EMI a chwblhau graddau mewn Peirianneg Electronig a Chyfathrebu o Brifysgol Bangor. Mae ei yrfa’n rhychwantu ymchwil flaengar mewn peirianneg microdonnau ac amleddau radio, gan gynnwys arloesedd cynnar mewn ynni microdon amledd uchel ar gyfer trin canser.
Fel sylfaenydd a Phrif Swyddog Trawsnewid Creo Medical PLC, mae Chris wedi arloesi systemau electrolawfeddygol sydd wedi trawsnewid gofal canser, gyda dyfeisiau sy'n trin miloedd o gleifion ledled y byd. Mae hefyd yn arwain y grŵp ymchwil Systemau Microdon Meddygol ym Mhrifysgol ÌìÌì³Ô¹Ïac mae'n dal swyddi Athro ym Mhrifysgol Caerdydd ac UCL. Mae Chris yn ddyfeisiwr sydd wedi’i enwi ar dros 1,500 o batentau, ac mae wedi derbyn nifer o wobrau o fri, gan gynnwys Medal Aur y Sefydliad Ffiseg a chydnabyddiaeth fel un o 50 Arloeswr Mwyaf Blaenllaw Ewrop. Mae'n Gymrawd yr Academi Beirianneg Frenhinol, Cymdeithas Ddysgedig Cymru, y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg, a'r Sefydliad Ffiseg.