Yngl欧n 芒鈥檙 Cwrs Yma
Mae ein Diploma 脭l-radd newydd mewn Nyrsio Meddygaeth Teulu yn Gymhwyster Ymarfer Arbenigol (SPQ) a gynlluniwyd ar gyfer nyrsys cofrestredig sy'n dymuno datblygu sgiliau uwch mewn gofal cychwynnol. Bydd yn cael ei gyflwyno trwy ddysgu hyblyg ar-lein ac mae'n cefnogi llwybrau astudio llawn amser a rhan amser; mae鈥檔 ddelfrydol ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy'n cydbwyso ymarfer clinigol gyda datblygiad proffesiynol.
Mae鈥檙 cwrs hwn yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd, yn unol ag anghenion gofal iechyd cyfoes, a鈥檌 nod yw rhoi'r wybodaeth, yr hyder a'r sgiliau meddwl beirniadol sydd eu hangen ar ymarferwyr i ffynnu mewn lleoliad meddygaeth teulu. Byddwch yn ennill yr arbenigedd i ymgymryd 芒 swyddogaethau annibynnol, arwain gwella ansawdd, ac eirioli dros gleifion ar draws amgylcheddau gofal amrywiol a deinamig.
Cofrestrwch eich diddordeb nawr
Er nad yw ceisiadau ar agor eto, gallwch gofrestru eich diddordeb heddiw. Drwy lenwi鈥檙 ffurflen fer isod, chi fydd y cyntaf i dderbyn diweddariadau, dyddiadau allweddol, ac arweiniad ar sut i wneud cais unwaith y bydd y cwrs wedi鈥檌 gymeradwyo鈥檔 llawn.
Er na ellir gwneud cais am yr cwrs hwn eto, rydym wrthi鈥檔 casglu diddordeb gan ddarpar ddysgwyr i鈥檔 helpu i lunio鈥檙 ddarpariaeth a鈥檙 gefnogaeth.
Pam astudio'r cwrs hwn?
- Datblygwch eich gyrfa mewn gofal cychwynnol gyda gwybodaeth arbenigol a chymwysterau cydnabyddedig
- Cyfle i wella eich sgiliau clinigol, arweinyddiaeth, a gwneud penderfyniadau, gan eich galluogi i ddarparu gofal diogel sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn
- Darpariaeth hyblyg ar-lein wedi'i deilwra i gyd-fynd 芒'ch bywyd gwaith a'ch ymrwymiadau personol
- Gellwch astudio ochr yn ochr 芒 chymheiriaid o bob rhan o Gymru a鈥檙 Deyrnas Unedig, gan rannu ymarfer gorau a meithrin rhwydweithiau proffesiynol
- Mae lleoedd wedi'u comisiynu ar gael i staff a gyflogir gan Fyrddau Iechyd Cymru, gan gefnogi datblygiad proffesiynol o fewn gweithlu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol *
- Mae鈥檙 rhaglen hon yn arwain at gymhwyster mewn Ymarfer Arbenigol y gellir ei gofrestru gyda鈥檙 Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC) ar 么l cwblhau鈥檙 rhaglen yn llwyddiannus *
Ydi鈥檙 cwrs yma鈥檔 addas i chi?
Mae鈥檙 rhaglen hon yn addas ar gyfer nyrsys cofrestredig sy鈥檔 gweithio ar hyn o bryd mewn amgylchedd gofal cychwynnol neu meddygaeth teulu sy鈥檔 barod i gamu i swyddi uwch. Efallai eich bod yn un o鈥檙 canlynol:
- Yn ceisio arbenigo mewn nyrsio meddygaeth teulu
- Yn gobeithio ymgymryd 芒 chyfrifoldebau arwain
- Yn ceisio gwella canlyniadau cleifion trwy ymarfer ar sail tystiolaeth
- Gyda diddordeb mewn gweithio ar frig eich trwydded o fewn t卯m amlddisgyblaethol
Gofynion mynediad
Rhaid i ymgeiswyr fod 芒鈥檙 canlynol:
- Wedi cofrestru gyda chorff nyrsio statudol am o leiaf blwyddyn
- Ffafrir gradd 2:1 neu radd dosbarth cyntaf; bydd ceisiadau gan y rhai sydd 芒 2:2 yn cael eu hystyried yn seiliedig ar eirdaon a datganiad personol
- Tystiolaeth o fynediad i leoliadau clinigol sy'n cyd-fynd 芒 deilliannau dysgu'r rhaglen
- Meddu ar wiriad uwch cyfredol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)
- Darparu datganiad personol cryf a geirda proffesiynol
Rydym yn croesawu ceisiadau gan ddysgwyr h欧n a'r rhai sy'n dychwelyd i addysg ar 么l seibiant gyrfa.
*yn amodol ar gymeradwyaeth a dilysiad terfynol y cwrs.