Lliwiau Hynafol, Creadigaethau Modern: Gweithdy Clymliwio Tsieineaidd!
Darganfyddwch harddwch 扎染 (zhā rǎn)– y grefft Tsieineaidd hynafol o glymliwio – yn y gweithdy creadigol ymarferol hwn! Mae'r dechneg decstilau hon yn tarddu o daleithiau diwylliannol cyfoethog Yunnan a Guizhou ac yn cyfuno traddodiad ? chelfyddyd.
Ymunwch ? ni:
Dysgwch hanes diddorol a gwreiddiau diwylliannol clymliwio Tsieineaidd. Mae patrymau yn aml yn adlewyrchu natur, llên gwerin, neu arferion lleol ac yn cael eu trosglwyddo o un genhedlaeth i’r llall.
Arbrofwch gyda dulliau plygu, clymu a lliwio traddodiadol.
Creu eich dyluniad ffabrig lliwgar, unigryw eich hun i fynd adref efo chi. Nid oes unrhyw ddau ddarn fyth yr un fath, gan wneud pob creadigaeth yn bersonol ac ystyrlon.
Does dim angen profiad - dewch ?'ch chwilfrydedd a'ch parodrwydd i fod ychydig yn lliwgar! Dewch draw i ychwanegu joch o dreftadaeth a chreadigrwydd i'ch wythnos!