Cronfa 天天吃瓜yn darparu modelau anatomegol i fyfyrwyr Ysgol y Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol
Mae grant gan Gronfa Bangor, sy鈥檔 seiliedig ar roddion gan gyn-fyfyrwyr ac a weinyddir gan y Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr, wedi galluogi Ysgol y Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol i brynu casgliad o fodelau anatomegol. Mae'r modelau hynod gywir hyn yn cynnwys seren f么r, cimwch yr afon a detholiad o wyth ymennydd fertebratau bellach yn gwella鈥檙 dysgu ym mhob un o'r saith rhaglen s诺oleg.
Myfyrwyr trydedd flwyddyn ar y modiwl Ffisioleg Pysgod oedd y cyntaf i elwa o'r adnodd newydd hwn. Defnyddiodd y myfyrwyr y modelau i ddadansoddi morffoleg ymennydd brithyll seithliw, morgi a llysywen. Daeth yn amlwg bod y modelau yn gydymaith delfrydol yn y pum sesiwn ymarferol yn cymharu anatomeg niwral a mynegiant hormonau fertebratau.
Defnyddir y modelau infertebratau hefyd yn y modiwlau S诺oleg Infertebratau a S诺oleg Integredig yn y gwanwyn. Mae'r modelau gwydn a dyranadwy hyn yn ddelfrydol i astudio anatomeg gymharol tra'n cefnogi ymrwymiad yr ysgol i hanfodion ymchwil gydag anifeiliaid - lleihau, disodli a mireinio.
Wrth i ddull dysgu modern yr ysgol ddatblygu gyda'i chwricwlwm newydd, rhagwelir y bydd y casgliad modelau anatomegol yn ehangu ymhellach.
听
Diolch i鈥檔 cyn- fyfyrwyr hael, gallwn wella profiad y myfyrwyr a鈥檜 dealltwriaeth o anatomeg anifeiliaid trwy ddefnyddio鈥檙 modelau gwyddonol hynod gywir hyn. Trwy gefnogaeth ein cymwynaswyr a brwdfrydedd ein myfyrwyr, rydym yn gwella ein hadnoddau yn barhaus ac yn cynyddu hygyrchedd a chynwysoldeb i鈥檙 holl fyfyrwyr.
听Dr Jo Hoppes (Darlithydd S诺oleg)听