Buddsoddiad mawr ar gyfer ymchwil iechyd merched
Bydd canolfan ymchwil bwrpasol ar gyfer iechyd merched yn agor fis Ebrill eleni, a鈥檙 nod yw y bydd hi鈥檔 darparu tystiolaeth hanfodol a fydd yn gwella gofal iechyd i ferched yng Nghymru a thu hwnt.
Bydd Canolfan Ymchwil Iechyd Merched Cymru yn elwa ar fuddsoddiad o 拢3 miliwn gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru sy鈥檔 cael cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, ynghyd 芒 拢750,000 ychwanegol ar gyfer projectau ymchwil eraill sy鈥檔 canolbwyntio ar iechyd merched.
Mae鈥檙 Athro Jane Noyes a Dr Carys Stringer, ymchwilwyr o Brifysgol 天天吃瓜wedi chwarae rhan uniongyrchol yn y gwaith o ddatblygu'r Ganolfan, a bydd Dr Stringer, sy鈥檔 ddarlithydd gyda'r Academi Tegwch Iechyd, Iechyd Ataliol a Llesiant, yn rhoi ei harbenigedd ym maes gwerthuso economeg iechyd ar waith.
Bydd y ganolfan hon yn ganolbwynt byd-eang ar gyfer ymchwilio, arloesi a chydgynhyrchu ym maes iechyd merched. Bydd yn mynd i鈥檙 afael ag anghydraddoldebau hirsefydlog ym maes iechyd merched ac yn ceisio cael gwared ar yr anghydraddoldeau hynny. Bydd yn rhoi sylw penodol i bedwar maes thematig sef:
1. Iechyd Atalaliol a Thrawsnewidiadau Iach - Hyrwyddo mesurau ataliol a chefnogi trawsnewidiadau iach trwy gydol oes.
2. Cyflyrau Cynnar a Gydol Oes - Gwella diagnosis, triniaeth a gofal ar gyfer cyflyrau sy'n effeithio ar ferched ar hyd eu hoes.
3. Cyflyrau prin a chyflyrau y mae stigma yn eu cylch - Taflu goleuni ar gyflyrau sy'n cael eu hanwybyddu a'u stigmateiddio ac sy'n effeithio'n anghymesur ar ferched.
4. Cymunedau sy'n cael eu Tanwasanaethu - Mynd i'r afael 芒 gwahaniaethau a rhwystrau i fynediad at ofal iechyd mewn poblogaethau sydd wedi鈥檜 hymyleiddio.
I gael rhagor o wybodaeth am y cyhoeddiad hwn, ewch i Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.