天天吃瓜

Fy ngwlad:
Amgueddfa Hanes Naturiol Brambell

Cyrsiau Swoleg Israddedig

Yn y 10% uchaf o blith prifysgolion y byd o ran cynaliadwyedd (QS World Rankings: Sustainability 2024).

Os ydych chi yn angerddol am anifeiliaid, y byd naturiol, atal newid yn yr hinsawdd, cynaliadwyedd a'r amgylchedd; yna gradd mewn 厂诺辞濒别驳 ym Mhrifysgol 天天吃瓜yw'r radd i chi.

Ar y dudalen yma:
Ein cyrsiau Swoleg

Ein cyrsiau Swoleg

Mae'r addysgu a'r cyrsiau y mae 天天吃瓜yn eu cynnig heb eu hail.

Steve Backshall,  Darlithydd er Anrhydedd ac un o d卯m addysgu Prifysgol Bangor; naturiaethwr, fforiwr a chyflwynydd

[0:03] Mor, mor gyffrous! Mae hi鈥檔 gr锚t cwrdd gyda Steve! Mae鈥檔 gyfle mor gr锚t i hyd yn oed cael gweld听

[0:09] y Fenai mewn ffordd wahanol hefyd.

[0:12] Un o鈥檙 rhesymau i mi ddewis dod i Fangor oedd i gael bod mewn ardal fel hon,听

[0:16] Does dim ffordd well o dreulio鈥檙 prynhawn i ddweud y gwir!听

[0:23] Rydym yn mynd allan i鈥檙 afon Menai Fenai ac yna i Ynys Seiriol gyda chriw o fyfyrwyr gwyddorau naturiol听

[0:28] i gael blas o鈥檙 gorau sydd gan yr ardal yma i鈥檞 chynnig.听

[0:47] Wel, hyd yma rydym wedi gweld y gorau o鈥檙 bywyd gwyllt o鈥檙 rhan yma o鈥檙 byd, yn enwedig yr adar. 听

[0:53] Mae鈥檙 ysgafelloedd yn dew, bron i bob centimedr, wedi ei orchuddio gyda heligogod, gwylanod听

[0:59] ac rydym wedi gweld mulfrain gwyn ac wrth gwrs y palod (puffins).

[01:02] Mae鈥檔 debyg mai dyma pam wnes i benderfynu creu perthynas gyda Bangor.听

[01:06] Oherwydd yr hyn rydych yn ei weld yn y fan yma. Gall unrhyw sefydliad fuddsoddi mewn isadeiledd.

[01:11] Gall unrhyw sefydliad gael adeiladau mwy, neu gael mwy o addysgu.

[01:14] Ond does dim buddsoddiad yn y byd all gael hyn.听

[01:18] Hyn ar ein trothwy, sy'n gwneud 天天吃瓜y lle gorau i astudio鈥檙 gwyddorau naturiol.

[01:30] Mae鈥檔 wych. Yn amlwg dim ond jyst y cwmni gyda Steve yma, mae gweld y bywyd gwyllt, y gwylanod coes-ddu...听

[01:37] y mulfrain, y morloi a鈥檙 math yna o beth. Hollol ryfeddol a phrofiad unigryw iawn.

[01:41] Mae Steve yn ddyn cl锚n iawn. Ia, hollol anhygoel. Does unman gwell i fod.听

[01:46] Mae hi wedi bod yn brynhawn anhygoel. Dwi鈥檔 teimlo fy mod wedi cael fy ergydio ychydig ac yn rynllyd.

[01:51] Ond, i allu dod allan yma, a mi allwch weld y Brifysgol o fan hyn.

[01:56] Gallwch weld y neuaddau preswyl o fama. I fod yn fyfyriwr yma, a meddwl y gallwch orffen astudio听

[02:01] a dod lawr yma a padlfyrddio neu gaiacio allan ar y Fenai a chael hyn fel ffordd o leihau straen arholiadau.

[02:08] Mae hynna yn hollol anhygoel i mi.

Sir David Attenborough

Gradd er Anrhydedd Syr David Attenborough

"Mae gan Brifysgol 天天吃瓜enw rhagorol ym maes听astudio gwyddorau'r amgylchedd a'r m么r. Mae arnom angen pobol efo'r arbenigaeth a'r sgiliau ymchwil hollbwysig i geisio datrys problemau'r byd."

Y fyfyrwraig Amy Stout

Proffil Myfyriwr Amy Stout

"Bu astudio 厂诺辞濒别驳 gydag Ymddygiad Anifeiliaid yn brofiad anhygoel. Mae yma ddarlithwyr ysbrydoledig yn ymchwilio i lawer o bynciau amrywiol,听ac o鈥檔 cwmpas mae bioamrywiaeth anhygoel Gogledd Cymru."

Y myfyrwir James Szewczyk

Proffil Myfyriwr James Szewczyk

"Mae swoleg gyda herpetoleg yn darparu amrywiaeth eang o fewn y modiwlau, a phob un yn wirioneddol ddiddorol a hwylus."

Bydd ein cyfleusterau yn dod 芒'r hyn rydych wedi ei ddysgu yn fyw

Mae鈥檙 cyfleusterau yn cynnwys:

  • ein hamgueddfa hanes natur ein hunain听
  • gardd fotaneg
  • acwaria d诺r croyw a morol
  • casgliad o nadroedd gwenwynig
  • labordy pridd tanddaearol mwyaf Ewrop听
  • adardai
  • llong ymchwil sy'n mynd dros y m么r
  • fferm ymchwil weithredol
Myfyriwr yn gwisgo siwmper felen yn ysgrifennu mewn llyfr nodiadau, wedi ei hamgylchynau gyda phlanhigion yn y t欧 gwydr yng Ngardd Fotaneg Treborth.
Yn y t欧 gwydr, Gardd Fotabeg Treborth

A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor?听Mae ein llysgenhadon yn barod i鈥檆h helpu gael yr ateb.

Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol fel myfyriwr Swoleg.听

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr?听

  • Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr Swoleg llwyddiannus ym Mangor?听
  • Beth allai wneud i baratoi at astudio Swoleg ym Mangor?听
  • Sut ydw i yn gwybod mai Swoleg ym Mangor yw鈥檙 dewis iawn i mi?听

Ein Hymchwil o fewn Swoleg

Mae darlithwyr ac ymchwilwyr ym Mhrifysgol 天天吃瓜yn gwneud ymchwil i nifer fawr o feysydd s诺olegol, ac mae'r gwaith hwnnw yn mynd 芒 nhw i bob cwr o'r byd. Rydym yn annog myfyrwyr i ymwneud 芒 nifer o'r projectau hyn ac i fanteisio ar y cyfleusterau blaengar sydd ar gael yma. Mae gennym sylfaen ymchwil helaeth a thrwyadl sy'n cynnwys听 ecoleg foleciwlaidd, biogeocemeg a gwyddor planhigion, ffisioleg, ymddygiad a chadwraeth anifeiliaid. microbioleg, parasitoleg a biotechnoleg, geneteg pysgodfeydd, DNA hynafol, bioleg esblygiadol a chadwraeth, biogeocemeg, biohydrofeteleg, biocemeg cynnyrch planhigion a ffisioleg straen (planhigion), biogeocemeg gwlypdiroedd, niwroffisioleg anifeiliaid cramennog, niwroffisioleg anifeiliaid cramennog, ymatebion anifeiliaid i straen a microbioleg gymhwysol.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.