ÌìÌì³Ô¹Ï

Fy ngwlad:
Clychau'r Gog mewn coedwig yn y gwanwyn.

Graddau Coedwigaeth Israddedig

2il yn y DU am Amaethyddiaeth a Choedwigaeth (The Times & The Sunday Times Good University Guide 2024) ac yn y 10% uchaf o blith prifysgolion y byd o ran cynaliadwyedd (QS World Rankings: Sustainability 2024).

Ar y dudalen yma:
Ein cyrsiau Coedwigaeth

Rhoddodd y lleoliad gwaith gipolwg gwych i mi ar waith ymgynghori amgylcheddol flaenllaw a llwyddais i ddefnyddio'r wybodaeth a'r sgiliau yr oeddwn Ìýwedi'u dysgu yn fy nghyrsiau gyda sefyllfaoedd Ìýbywyd go iawn.Ìý

Jemima Letts, graddedig mewn Coedwigaeth, yn gweithio fel cynorthwyydd coedwigaeth yn Stad Chatsworth

Proffil Cyn-fyfyriwr Jemima Letts

"Roeddwn i'n dysgu gan bobl oedd ar y rheng flaen mewn ymchwil newydd ym maes coedwigaeth. Rwyf bellach yn gweithio fel rhan o'r tîm Coedwigaeth a Choedyddiaeth i reoli'r bron i 4,000 erw o goetir ar Ystâd Chatsworth."Ìý

Bu'r lleoliad gyda CNC yn brofiad hynod werthfawr; cefais gyfleoedd i roi’r hyn a ddysgais yn fy ngradd ar waith, a bydd y profiad a gefais yn help imi ym mlwyddyn olaf fy ngradd.

Emyr Parker

Llwyddiant cyn-fyfyriwr Emyr Parker

Mae cyn-fyfyriwr Coedwigaeth BSc (Anrh), Emyr Parker bellach yn gweithio fel Rheolwr Coedwigoedd Cynorthwyol i gwmni coedwigaeth preifat, Tilhill. Mae ei swydd yn ymwneud â rheoli eiddo cleientiaid ac mae hynny yn cynnwys cynllunio, mapio a rheoli'r tir - o blannu’r hadau i'r felin lifio.Ìý

Cymerwch olwg ar fideo Emyr gan y Chartered Institute of Foresters.

Mae'r addysgu a'r cyrsiau y mae ÌìÌì³Ô¹Ïyn eu cynnig heb eu hail.

Steve Backshall,  Darlithydd er Anrhydedd ac un o dîm addysgu Prifysgol Bangor; naturiaethwr, fforiwr a chyflwynydd

[0:03] Mor, mor gyffrous! Mae hi’n grêt cwrdd gyda Steve! Mae’n gyfle mor grêt i hyd yn oed cael gweldÌý

[0:09] y Fenai mewn ffordd wahanol hefyd.

[0:12] Un o’r rhesymau i mi ddewis dod i Fangor oedd i gael bod mewn ardal fel hon,Ìý

[0:16] Does dim ffordd well o dreulio’r prynhawn i ddweud y gwir!Ìý

[0:23] Rydym yn mynd allan i’r afon Menai Fenai ac yna i Ynys Seiriol gyda chriw o fyfyrwyr gwyddorau naturiolÌý

[0:28] i gael blas o’r gorau sydd gan yr ardal yma i’w chynnig.Ìý

[0:47] Wel, hyd yma rydym wedi gweld y gorau o’r bywyd gwyllt o’r rhan yma o’r byd, yn enwedig yr adar. Ìý

[0:53] Mae’r ysgafelloedd yn dew, bron i bob centimedr, wedi ei orchuddio gyda heligogod, gwylanodÌý

[0:59] ac rydym wedi gweld mulfrain gwyn ac wrth gwrs y palod (puffins).

[01:02] Mae’n debyg mai dyma pam wnes i benderfynu creu perthynas gyda Bangor.Ìý

[01:06] Oherwydd yr hyn rydych yn ei weld yn y fan yma. Gall unrhyw sefydliad fuddsoddi mewn isadeiledd.

[01:11] Gall unrhyw sefydliad gael adeiladau mwy, neu gael mwy o addysgu.

[01:14] Ond does dim buddsoddiad yn y byd all gael hyn.Ìý

[01:18] Hyn ar ein trothwy, sy'n gwneud ÌìÌì³Ô¹Ïy lle gorau i astudio’r gwyddorau naturiol.

[01:30] Mae’n wych. Yn amlwg dim ond jyst y cwmni gyda Steve yma, mae gweld y bywyd gwyllt, y gwylanod coes-ddu...Ìý

[01:37] y mulfrain, y morloi a’r math yna o beth. Hollol ryfeddol a phrofiad unigryw iawn.

[01:41] Mae Steve yn ddyn clên iawn. Ia, hollol anhygoel. Does unman gwell i fod.Ìý

[01:46] Mae hi wedi bod yn brynhawn anhygoel. Dwi’n teimlo fy mod wedi cael fy ergydio ychydig ac yn rynllyd.

[01:51] Ond, i allu dod allan yma, a mi allwch weld y Brifysgol o fan hyn.

[01:56] Gallwch weld y neuaddau preswyl o fama. I fod yn fyfyriwr yma, a meddwl y gallwch orffen astudioÌý

[02:01] a dod lawr yma a padlfyrddio neu gaiacio allan ar y Fenai a chael hyn fel ffordd o leihau straen arholiadau.

[02:08] Mae hynna yn hollol anhygoel i mi.

Sir David Attenborough

Gradd er Anrhydedd Syr David Attenborough

"Mae gan Brifysgol ÌìÌì³Ô¹Ïenw rhagorol ym maesÌýastudio gwyddorau'r amgylchedd a'r môr. Mae arnom angen pobol efo'r arbenigaeth a'r sgiliau ymchwil hollbwysig i geisio datrys problemau'r byd."

A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor?ÌýMae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.

Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol fel myfyriwr Coedwigaeth.Ìý

Ìý

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr?Ìý

  • Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr Coedwigaeth llwyddiannus ym Mangor?Ìý
  • Beth allai wneud i baratoi at astudio Coedwigaeth ym Mangor?Ìý
  • Sut ydw i yn gwybod mai Coedwigaeth ym Mangor yw’r dewis iawn i mi?Ìý

1af

yn y DU am effaith ein Hymchwil

REF 2021

Ein Hymchwil o fewn Coedwigaeth

Rydym ar flaen y gad ym maes ymchwil coedwigaeth ryngwladol ac mae gennym enw rhagorol am ein gweithgareddau ymchwil. Mae ein myfyrwyr a'n staff academaidd yn cydweithio'n gyson â sefydliadau rhyngwladol megis yÌýÌý(CATIE), yÌýÌý(CIFOR), a'rÌýÌý(ICRAF).

Mae ein tîm ymchwil yn amlddisgyblaethol ac yn cynnwys pob agwedd ar ddisgyblaeth coedwigaeth.Ìý Mae gennym raglenni ymchwil gweithredol sy'n ymchwilio i goedwigoedd boreal a throfannol, a phopeth a geir rhyngddynt. Mae ein gwaith yn ymwneud â choedwigoedd ac addasu i newid hinsawdd, lliniaru, datgoedwigo, bioamrywiaeth, adfer ar ôl trychineb, diogelwch bwyd, amddiffyn rhag llifogydd, cylchu maetholion, lles dynol, cadwraeth a swyddogaeth.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.