
Iqbal Hussain
Mathemateg, 1992

Pam dewisais i Fangor i astudio Mathemateg? Roeddwn i yn y llyfrgell yn fy ngholeg, yn Blackburn, yn pori drwy ffolderi prifysgolion. Dechreuais ar 鈥淎鈥, gan neidio dros Aberystwyth (rhy anodd ei sillafu) ac Aberdeen (rhy bell), a symud ymlaen i 鈥淏鈥 鈥 a doedd dim angen edrych ymhellach. A minnau wedi fy magu mewn tref yng ngogledd Lloegr, roedd gweld mynyddoedd, llynnoedd a choedwigoedd gogledd Cymru yn ddigon i wybod fy mod wedi darganfod lle roeddwn i eisiau treulio'r tair blynedd nesaf.
Roedd hefyd yn help, gyda llaw, bod gradd mathemateg 天天吃瓜yn gweddu鈥檔 berffaith at fy niddordebau, a bwysai鈥檔 drwm ar bleserau haniaethol mathemateg bur. Yn anffodus, nid yw'r adran fathemateg yn bodoli mwyach, ond bryd hynny roedd yn lle anhygoel i fod.
Yn rhyfeddol, es i ddim i Ddiwrnod Agored, gan roi fy holl ffydd yn addewid y prosbectws. Ym mis Medi, gyrrodd fy mrawd fi i lawr mewn fan wedi'i llogi yn llawn i鈥檙 ymylon gyda dillad gwely a llyfrau. Bu'n rhaid i mi atal fy mam rhag fy anfon ymaith gyda phentwr anferth o sosbenni - nid oedd hi'n argyhoeddedig y byddai bwyd neuadd breswyl Reichel yn addas.
A bod yn deg 芒 hi, doedd bod mewn neuadd arlwyo ddim yn hawdd. Cefais fy magu ar aelwyd Fwslimaidd, ac roedd fy chwaeth yn draddodiadol iawn. Roedd bwyd llysieuol yn dal i fod yn brin y tu allan i'r dinasoedd mawr. Eto i gyd, rywsut, llwyddodd y t卯m arlwyo i ddod o hyd i gyw i芒r halal yng ngerwinder gogledd Cymru. Bron bob nos yn ddieithriad, cawn frest o gyw i芒r sych, wedi'i or-goginio, gydag amrywiaeth o lysiau wedi'u berwi. Buasai'n wallgof cwyno.
Doeddwn i ddim wedi byw oddi cartref o'r blaen, ac roedd bywyd prifysgol yn sioc ddiwylliannol. Ar wah芒n i'r bwyd (lle canfyddais fwydydd egsotig am y tro cyntaf fel caws, madarch, courgettes a saws Dolmio), dysgais sut roedd pobl eraill yn byw. Yn fy ail flwyddyn, rhannais d欧 myfyrwyr ar Ffordd Garth Uchaf gyda chwech arall. Dysgais nad oedd Saeson yn rinsio eu llestri ar 么l eu golchi efo sebon, y cai te ei wneud mewn tegell yn hytrach na'r 鈥榗hai鈥 a wn芒i Mam ar y st么f, ac y rhoddid menyn ar dost ar 么l crasu鈥檙 bara (roeddwn i wedi arfer 芒 thost wedi'i wneud o fara wedi'i orchuddio 芒 menyn yn gyntaf ac yna wedi ei roi ar radell boeth).
Pan nad oeddwn yn trin rhifau, dechreuais ymwneud 芒 phapur newydd y myfyrwyr, Y Seren. Roedd yn dda cydbwyso fy ymennydd rhesymegol gyda rhywbeth mwy creadigol. Ysgrifennais bob math o ddarnau - yn straeon newyddion am yr orsaf b诺er newydd ar gyfer Trawsfynydd, adolygiadau o sioeau yn Theatr Gwynedd (gan danio cariad gydol oes at y celfyddydau), a chyfweliad gyda David Icke (amhosib cael ateb pendant ganddo, gan ei fod yn defnyddio mil o eiriau pan fyddai deg wedi gwneud).
Ar 么l graddio, des i Lundain a dilyn diploma 么l-radd mewn Newyddiaduraeth. Roedd fy amser yn gweithio ar Y Seren wedi gwneud i mi sylweddoli fy mod eisiau gweithio gyda geiriau, nid rhifau. B没m yn newyddiadurwr am sawl blwyddyn wedyn, yn arbenigo mewn cylchgronau plant a merched ifanc. Yn y pen draw, derbyniais nad oedd newyddiaduraeth yn mynd i fy helpu i brynu t欧. Felly, ymunais 芒 chwmni cyfreithiol yn y ddinas fel gweithiwr achlysurol. Ni adawais i erioed. Roeddwn i yno am 27 mlynedd.
Yn ystod y pum mlynedd diwethaf dechreuais ysgrifennu eto - ffuglen y tro hwn. Dechreuodd fy straeon byrion ennill gwobrau. Enillodd un stori, 鈥淗ome from Home鈥, wobr aur y Creative Future Writers Awards. Daeth y stori yn sail i fy nofel gyntaf, Northern Boy, a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2024, ar 么l ennill cystadleuaeth a gynhaliwyd gan y cyhoeddwr Unbound. Mae鈥檔 stori yngl欧n 芒 chyrraedd llawn oed, wedi鈥檌 gosod ar ddechrau鈥檙 1980au mewn tref felinau yn Swydd Gaerhirfryn, am fod yn 鈥済l枚yn byw ymhlith y brics鈥.
Yn 2025, penderfynais ddod yn awdur amser llawn, gan ffarwelio 芒 diogelwch y Ddinas. Weithiau, mae angen i chi gymryd naid i'r tywyllwch. Yn union fel pan ddewisais i Fangor heb fynychu Diwrnod Agored. Dim difaru, dim amser i newid eich meddwl, dim ond mynd amdani a gwybod y bydd amseroedd a chyfleoedd anhygoel o'ch blaen.
Mae Northern Boy ar gael o bob man arferol, gan gynnwys , , a . Gallwch hefyd wrando arno fel llyfr sain, yn .