Newyddlenni
Prifysgolion a cholegau鈥檔 dod ynghyd i gynnig prentisiaethau yn rhad ac am ddim
Mae Prifysgolion 天天吃瓜a Glynd诺r Wrecsam, Coleg Cambria, Gr诺p Llandrillo Menai a'r Brifysgol Agored (OU) wedi dod ynghyd er mwyn hyrwyddo prentisiaethau sydd wedi'u hariannu'n gyfan gwbl.
Bydd llefydd ar gael o fis Ionawr ymlaen ac mae'r partneriaid yn cynnwys D诺r Cymru, Cartrefi Cymru, Airbus a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, gan ddod ag addysg i mewn i'r gweithle a rhoi profiad ymarferol hanfodol i ddysgwyr wrth iddynt gyflawni gradd is-raddedig dros dair blynedd.
Wedi'i gyflwyno gan David Roberts, cadeirydd Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru, anogir cyflogwyr i fynychu'r digwyddiad rhithiol er mwyn uwchraddio sgiliau eu gweithwyr ar adeg allweddol i bob diwydiant yn wyneb pandemig Coronafeirws.
Meddai: "Mae'r weminar yn llwyfan i hysbysu busnesau ac unrhyw un sy'n ceisio ail-hyfforddi neu symud ymlaen yn eu r么l gyfredol ynghylch y cyfleoedd sydd ar gael.
"Mae'r rhain yn swyddi sydd wedi'u hariannu'n gyfan gwbl mewn ystod o feysydd; ond, yn ystod y sesiwn byddwn yn canolbwyntio'n benodol ar y sectorau TG, digidol a gweithgynhyrchu gan fod y rhain yn feysydd lle mae galw mawr."
Ychwanegodd Mr Roberts: "Mae hyn yn rhywbeth y dylem fod yn gweiddi amdano ar dop ein lleisiau. Prentisiaethau sydd wedi'u hariannu'n gyfan gwbl ar stepen drws cynifer o gyflogwyr yma yng Nghymru.
"Rydym yn arbennig o awyddus i roi hwb i niferoedd erbyn y Flwyddyn Newydd - mae cyfle i ddechrau fis Ionawr - felly, gobeithio y cawn ymateb cadarnhaol ar y diwrnod."
Ymhlith y rheini sydd wedi elwa o'r cynllun yw Carl Jeffreys, prentis peirianneg meddalwedd gyda landlord cymdeithasol yng Nghymru, Trivallis.
Meddai: "Mae'r lefel uchel o hyblygrwydd a hunan-reolaeth yn helpu'n fawr. Gallaf fapio pethau allan a chynllunio fy ngwaith a fy astudiaethau, ond gallaf fod yn hyblyg gyda fy amser hefyd os yw rhywbeth yn codi'i ben. Hefyd, gallaf jyglo'r cyfan gyda fy ngwraig a fy mhlentyn."
Cynhelir y digwyddiad ddydd Mawrth, 17 Tachwedd o 2.30-3.30pm ac mae'n cynnwys sesiwn Cwestiwn ac Ateb a chyflwyniad gan brentis a chyflogwr.
I gofrestru, ewch i
Prifysgolion a cholegau鈥檔 dod ynghyd i gynnig prentisiaethau yn rhad ac am ddim
Dyddiad cyhoeddi: 10 Tachwedd 2020